Defnyddio cydosod ar gyfer effeithiau gweledol

URN: SKSVFX14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu golygfa drwy gydosod cydrannau unigol yn ddigidol.

Gellir cynhyrchu cydosodiadau i wirio gwaith sy’n mynd rhagddo a chyflwyno’r gwaith terfynol. Mae Cydosod yn dwyn yr holl elfennau o adrannau eraill ynghyd er mwyn creu saethiad terfynol.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â chydosod neu oleuo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dadansoddi briffiau, sgriptiau, cyfeirnodau gweledol, paramedrau technegol a chynhyrchu i bennu beth sydd ei angen
  2. gwneud penderfyniadau ynghylch ble a sut i osod asedau i fodloni bwriadau, nodau ac amcanion y cyfarwyddwr o ran y saethiadau yn yr olygfa
  3. haenu a gosod asedau i gydosod pob saethiad
  4. cydweddu, graddio ac addasu elfennau yn ôl yr angen
  5. rhoi technegau cydosod priodol ar waith yn ôl yr angen
  6. monitro cynnydd i sicrhau caiff cysondeb saethiadau ei gynnal
  7. gwirio a chadarnhau bod saethiadau’n weledol gydlynol ac yn bodloni’r gofynion
  8. gwerthuso ansawdd y saethiadau a gwneud unrhyw welliannau sydd eu hangen
  9. allbynnu’r saethiadau gorffenedig ar y ffurf sy’n ofynnol
  10. defnyddio meddalwedd safon diwydiant i fewnforio, haenu, trin a chydosod elfennau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr arddull creadigol, gwedd, awyrgylch a’r cysyniad cyffredinol sydd ei angen ar gyfer y cynhyrchiad
  2. y nodau, yr amcanion, bwriadau’r cyfarwyddwr a gofynion y Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol ar gyfer yr olygfa
  3. gofynion technegol a deilliannau’r prosiect, megis y gymhareb agwedd, cyfradd-ffrâm a ffurf
  4. yr ystod o asedau a fydd yn cyfuno i greu pob saethiad a golygfa, megis cymeriadau, cefndiroedd, rendrau Graffeg Gyfrifiadurol (CG) a ffilmiau stoc
  5. y technegau cydosod
  6. y technegau matte ac allweddu megis sgrin glas a gwyrdd
  7. egwyddorion ffotograffiaeth, sinematograffi a goleuo, megis adlewyrchu, cysgodion, gweadau, cydbwysedd lliw, niwlio symudiad, dyfnder ffocws
  8. y ddamcaniaeth lliw megis trawsnewidiadau rhwng log, unionlin, gofodau lliw fideo, dwyseddau negyddol digidol, pwyntiau gwyn, cromatigedd
  9. y gofod lliw y mae gofyn ichi weithio ynddo ac unrhyw LUTs gwylio sydd eu hangen
  10. yr egwyddorion a’r technegau i addasu eglurder delweddau, tacluso rigiau a gwifrau, gwella edrychiad rendr, rotosgopio, addasu graenu, cywiro lliw, masgio pwysigrwydd cysondeb saethiadau
  11. sut i ddefnyddio meddalwedd safon diwydiant i fewnforio, haenu, trin a chydosod elfennau
  12. posibiliadau trin ystod ehangach o waith effeithiau gweledol gyda rhai rhaglenni meddalwedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX14

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydosod; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; gofynion cynhyrchu; cynhyrchu; goleuo; damcaniaeth lliw; sinematograffi; LUTs; elfennau;