Defnyddio arlliw-wyr ar gyfer effeithiau gweledol
URN: SKSVFX10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio ac addasu arlliw-wyr i ddatblygu’r wedd ar gyfer effeithiau gweledol ac mae hefyd yn ymdrin ag efelychu.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio arlliw-wyr felly gallai fod yn berthnasol i artistiaid goleuo neu gyfarwyddwyr technegol.
Gallai’r safon hon gael ei defnyddio gan Gyfarwyddwyr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol a Chyfarwyddwyr Technegol Effeithiau Gweledol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi gwybodaeth y cynhyrchiad i nodi’r gofynion o ran arlliw-wyr a’r paramedrau y mae’n rhaid iddyn nhw eu bodloni
- gwirio a chadarnhau fod gennych chi ddigon o wybodaeth ar y cyfryngau a’r ffenomena y bydd arlliw-wyr yn berthnasol iddyn nhw
- gwerthuso a oes modd ail-ddefnyddio neu addasu meddalwedd arlliw-wyr neu a oes angen ei greu o’r newydd
- gwirio a chadarnhau eich bod yn deall defnydd a diben unrhyw adnoddau ymchwil a datblygu y byddwch chi’n eu derbyn
- egluro yn fanwl unrhyw ddiwygiadau neu addasiadau y mae’n rhaid eu cyflawni ar adnoddau neu ddata a gynhyrchir gan adrannau eraill
- gwirio a chadarnhau bod modd i arlliw-wyr greu’r wedd a’r naws a ddymunir a’u bod yn bodloni’r gofynion rendro
- addasu a gwella’r feddalwedd arlliw-wyr yn ôl yr angen.
- gwirio a chadarnhau bod y meddalwedd arlliw-wyr yn gweithio’n gyson gyda meddalwedd eraill a ddefnyddir ar y gweill
- cysylltu gydag eraill ynghylch nodau a chynnydd ac ymateb i adborth a gofynion newidiol
- paratoi dogfennau arlliwio sy’n egluro arlliw-wyr i eraill yn y lefel o fanylder sydd ei angen arnyn nhw
- cyflawni gwaith yn unol ag amserlenni a cherrig milltir y cynhyrchiad
- cadw gwybodaeth a data yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y datblygiadau diweddar o ran datblygu meddalwedd arlliwio
- y ffynonellau gwybodaeth ar sut mae gwahanol gyfryngau’n ymddwyn ac yn ymateb i wahanol ffenomena
- y gofynion o ran arddull creadigol, gwedd, naws, lefel manylder a gloywi sydd ei angen gan arlliw-wyr
- canlyniadau amserlen a cherrig milltir y cynhyrchiad
- y defnydd bwriedig a chyd-destun yr arlliw-wyr
- sut i ofyn cwestiynau perthnasol ynghylch adnoddau ymchwil a datblygu
- effaith adnoddau a data o adrannau eraill ynghylch yr arlliw-wyr rydych chi’n eu creu
- y lluniadau rhaglennu sydd ar gael a sut i’w defnyddio
- y mathau o ddata y gellir eu defnyddio a sut y gellir eu cynrychioli a’u trin wrth ddatblygu arlliw-wyr
- egwyddorion ffiseg optegol a’r fathemateg sy’n ei ategu
- effeithiau safleoedd camera, onglau, mathau o lensys a goleuadau mewn perthynas â gwrthrychau ac amgylcheddau
- nodweddion arwyneb deunyddiau, gwahanol fathau o weadau, goleuadau ac effeithiau eraill y gellir eu defnyddio gyda gwrthrychau ac amgylcheddau 3D
- damcaniaeth a phwysigrwydd lliw, goleuo a sinematograffi
- y technegau ar gyfer creu arlliw-wyr matte, megis ar gyfer cefndiroedd, cysgodion neu orchuddion
- pwy sydd angen pa lefel o wybodaeth am arlliw-wyr
- gwerth ceisio adborth cynnar
- pwysigrwydd cynnal diogelwch data a chydymffurfio gyda chanllawiau a strwythurau ffeil eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Screenskills
URN gwreiddiol
SKSVFX10
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
arlliw-wyr; defnyddio; meddalwedd; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; asedau; cynhyrchiad; gofynion y cynhyrchiad;