Pennu’r briff ar gyfer effeithiau gweledol

URN: SKSVFX1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dod i gytundeb llawn a chyd-ddealltwriaeth o’r briff Effeithiau Gweledol er mwyn sicrhau bod y gwaith a gyflawnir yn bodloni’r weledigaeth greadigol ac yn ymarferol ac yn gyraeddadwy o fewn y cyfyngiadau o ran y gyllideb ac amser.

Mae’n broses ailadroddol a gallai ymdrin â fersiynau amrywiol. Gallai olygu gweithio gan ddefnyddio neu fireinio briff sydd wedi’i ddiffinio ymlaen llaw neu fynd ati i lunio un o’r newydd. Gallai esblygu trwy gydol y cynhyrchiad a gellir ychwanegu eitemau ato. Gallai nodi eitemau sy’n destun ymchwiliad pellach, Ymchwil a Datblygiad (R&D) neu agweddau anhysbys i’w diffinio.

Caiff hyn ei gyflawni’n fwyaf tebygol gan Artistiaid Effeithiau Gweledol neu dîm Cynhyrchu Rhithwir (VP) dynodedig ar wahân.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau unrhyw weledigaeth, dymuniadau neu ragdybiaeth sydd gan gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, goruchwylwyr neu dimau creadigol
  2. cydnabod agweddau allweddol ar gyfer genres ac arddulliau gweledol penodol
  3. pennu sut caiff cynnwys ffilmio byw ei ffilmio
  4. defnyddio’ch profiad a’ch barn o’r hyn fyddai’n ymarferol wrth fodloni’r weledigaeth greadigol
  5. awgrymu diwygiadau, ychwanegiadau, technoleg newydd neu ddewisiadau amgen os ydych chi’n meddwl eu bod yn ychwanegu at y briff
  6. dwyn i ystyriaeth sut mae’r gwaith a gynhyrchir gan adrannau ffilm eraill yn effeithio ar yr Effeithiau Gweledol
  7. cadarnhau gyda’r bobl berthnasol fod gennych chi gyd-ddealltwriaeth o’r briff, gan ddefnyddio deunydd gweledol lle byddai’n gymorth i wella’r ddealltwriaeth
  8. amlinellu unrhyw waith neu brofion Ymchwil a Datblygiad sydd eu hangen fel prawf o gysyniad
  9. sicrhau bod modd cyflawni’r briff gan gadw at y cyfyngiadau o ran y gyllideb, amserlen, lleoliad a chyfyngiadau eraill
  10. egluro eitemau gwirio’r briff sy’n debygol o newid a mynd i’r afael â nhw mewn ffyrdd na fyddai’n anfanteisiol i’ch sefydliad
  11. cyflawni gwaith yn unol ag amserlenni a cherrig milltir y cynhyrchiad
  12. addasu i newidiadau gweithredol a chreadigol wrth iddyn nhw godi ac awgrymu dewisiadau neu opsiynau ymarferol i’w dwyn i ystyriaeth
  13. adnabod a chyfathrebu goblygiadau’r gofynion newidiol ar y gyllideb, yr amserlen, a’r allbynnau Effeithiau Gweledol a bwrw iddi i’w datrys

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. technegau ffafriol a hoffterau’r cyfarwyddwr neu’r tîm creadigol
  2. sut i gaffael a dehongli’r briff neu ddeunyddiau gweledol
  3. sut i adnabod gofynion cynhyrchu o friff; cynllunio eich ymagwedd tuag at y gwaith, technegau, optimeiddiad a’r amserlen
  4. y weledigaeth greadigol ar gyfer gwaith Effeithiau Gweledol, ble i ganfod gwybodaeth am y gyllideb, yr amserlen a’r lleoliadau tebygol
  5. sut i asesu’r sgiliau, arbenigedd a’r galluoedd sydd eu hangen ar y tîm Effeithiau Gweledol
  6. sut gellir defnyddio Effeithiau Gweledol i wella cynyrchiadau, datrys problemau ac arbed arian
  7. manteision ac anfanteision y gwahanol gyfarpar a ellir ei ddefnyddio ar gyfer Effeithiau Gweledol a phryd mae’n briodol eu defnyddio
  8. y cyfarpar y gallai cyfleusterau neu ddatblygwyr eraill fod yn eu defnyddio i weithio ar asedau a rennir a saethiadau / golygfeydd
  9. sut i gyflwyno’ch dadleuon a’ch cynigion i ategu eich safbwynt
  10. sut i adnabod y goblygiadau o ran cost ac ymarferoldeb cyflawni gwaith Effeithiau Gweledol gan gynnwys o ran y tîm, deunydd, cyfarpar, lleoliadau a chyllidebau
  11. sut i ddefnyddio cafeatau neu nodiannau mewn cytundebau i ddiogelu’ch sefydliad rhag gofynion newidiol ac agweddau anhysbys
  12. pwysigrwydd asesu dichonoldeb technegol, sut i adnabod a datblygu o ran yr angen am Ymchwil a Datblygiad neu Brawf o Gysyniad i wirio’r ymagwedd
  13. sut i asesu a chyfathrebu effaith gwahanol newidiadau gan gynnwys toriadau o ran y gyllideb neu weledigaeth greadigol newidiol
  14. sut i asesu gwerth cymharol costau sefydlu neu adeiladu ar raddfa fawr o gymharu â gwaith saethu penodol
  15. sut i gynllunio saethiadau mewn ffordd cost effeithiol gan ddefnyddio asedau a rennir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

pennu; briff; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; gweledigaeth; amserlenni; cynhyrchiad rhithiol; cynhyrchiad;