Cynllunio a monitro gofynion gwaith gweithwyr llwyfan
URN: SKSSH9
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio'r gwaith sydd ei angen a phenderfynu pa adnoddau a staff sydd eu hangen i gwrdd â gofynion cyfan ac o ddydd i ddydd y prosiect. Mae'n cynnwys gwybod am allu pob aelod o'r tîm a sut i neilltuo, monitro a goruchwylio eu gwaith.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n goruchwylio gweithwyr llwyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli gofynion y cynhyrchiad
- cynllunio gwaith gweithwyr llwyfan yn unol â chynlluniau a chyfarwyddiadau technegol cyfan
- cael a gwirio adnoddau i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y gwaith ac yn cwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- dilyn camau cywirol pan fydd adnoddau yn anghyflawn neu anaddas
- neilltuo gwaith a gweithgareddau yn ôl lefelau sgiliau a gallu
- ystyried unrhyw newidiadau i amserlen y cynhyrchiad
- cynllunio'r gwaith i gwrdd ag amserlenni cynhyrchu
- gosod gorsafoedd gweithio ac offer trydanol yn eu lle gan ystyried anghenion mynediad, trydan ac awyru
- cynllunio'r gwaith o adeiladu darnau set a'r drefn bydd angen eu gosod a chael gwared arnynt
- ystyried clirio'r set yn unol ag amserlen y cynhyrchiad wrth gynllunio'r gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. risgiau a pheryglon posibl sydd ynghlwm â'r gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer delio gyda risgiau a pheryglon yn y gweithle
2. sut i ddehongli cynlluniau technegol a chynlluniau llwyfan ar gyfer gwaith cynllunio
3. deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
4. ble mae'r socedi, awyriadau, mynedfeydd ac allanfeydd mewn argyfwng
5. a oes tanc dŵr a beth ydy ei faint a'i leoliad
6. mesuriadau'r llwyfan
7. sut i bennu staff sydd eu hangen i weithio ar y set yn dibynnu ar eu sgiliau a'u galluoedd
8. yr amserlen sydd wedi'i chaniatáu ar gyfer y gwaith yn unol ag amserlen y cynhyrchiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSG14
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
gweithwyr llwyfan; cynllunio; adnoddau; staff; gofynion; cymwysterau; amserlenni; peryglon;