Goruchwylio gwaith codi a symud darnau ac eitemau set
URN: SKSSH8
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud trefniadau a chynlluniau ar gyfer y rhai fydd yn codi a symud darnau set gyda chludiant. Mae'n gofyn eich bod yn gwybod sut i gyfrifo'r prif lwyth ar gyfer llwytho cerbydau, peryglon gorlwytho a pheryglon eraill i'w hystyried a chynllunio ar eu cyfer.
Mae'r safon hon hefyd yn edrych ar gwblhau gwaith papur perthnasol ar gyfer symud eitemau dramor.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n goruchwylio gweithwyr llwyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a dosbarthu'r cyfarpar neu beiriannau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd gwaith
- sicrhau bod y cludiant cywir ar gael ar gyfer symud darnau set
- rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio cyfarpar a/neu beiriannau ac ar gyfer cyflawni'r gweithgaredd gwaith
- adnabod ac asesu risgiau a gweithredu arferion gwaith ac mesurau diogelu eraill fydd yn osgoi neu leihau risg
- cyfrifo prif lwyth cerbydau er mwyn osgoi gorlwytho neu wneud difrod i'r cerbyd neu eitemau gaiff eu symud
- monitro symudiad darnau set o gwmpas y set neu leoliad i gwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- sicrhau bod eitemau yn cael eu pacio'n ofalus i'w cludo
- cwblhau a chynnal cofnodion a dogfennaeth yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- yn ôl y gofyn, cwblhau datganiadau tollau at ddibenion cludo eitemau i wleddyd tramor
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- peryglon cludo eitemau yn y gweithle a ffyrdd o leihau'r risgiau sydd ynghlwm
- eich cyfrifoldebau o dan ofynion Iechyd a Diogelwch statudol
- sut i weithredu amddiffyniadau ac ymarferion gwaith i leihau risg
- sut i roi cyfarwyddiadau cywir ar gyfer cwblhau'r gweithgaredd gwaith a defnyddio cyfarpar a pheiriannau
- sut i gyfrifo prif lwyth cerbydau ac offer codi er mwyn osgoi gorlwytho
- terfyn pwysau cerbydau a chyfarpar
- sut i wybod pan fydd cerbydau a chyfarpar yn anaddas ar gyfer y gweithgaredd gwaith a phwy i roi gwybod iddynt am hyn
- pa waith papur i'w gwblhau at ddibenion tollau
- sut i gyflawni a chofnodi asesiadau risg
- pwysigrwydd cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSG13
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
gweithwyr llwyfan; goruchwylio; codi; symud; set; darnau; cludiant; prif lwyth; cerbydau;