Cyflawni gwaith cynnal a chadw a gweithdrefnau diogelwch gweithwyr llwyfan

URN: SKSSH7
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y set yn cael ei gynnal a chadw yn rheolaidd drwy ei gadw yn daclus a heb lanast bob tro, a'i fod yn cael ei gloi yn iawn ar ddiwedd y dydd a'i wirio'n drylwyr ar ddechrau'r diwrnod.

Mae hefyd a wnelo â pharatoi ar ddiwedd y dydd er mwyn sicrhau cychwyn cyflym i'r gwaith y diwrnod canlynol.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n goruchwylio gweithwyr llwyfan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyflawni gweithdrefnau agor set ar ddechrau'r diwrnod, gan gynnwys gwiriadau diogelwch i sicrhau bod yr holl gyfarpar mewn lle
  2. cadw'r set yn daclus a heb lanast trwy gydol yr amser a chael gwared ar lanast mewn modd cyfrifol
  3. cefnogi aelodau'r criw i gynnal amgylchedd gwaith taclus a diogel
  4. dehongli'r gofynion gwaith a chynllun yr ardal weithredu
  5. gwirio bod llwybr tân wedi'i ddarparu a'i fod yn cael ei gadw'n glir trwy'r amser
  6. adnabod ac ymdrin â pheryglon all gael effaith ar weithgaredd y gwaith
  7. adnabod mynedfeydd ac allanfeydd yr ardal waith er mwyn cynnal diogelwch a rhwystro mynediad i staff heb awdurdod 
  8. adnabod a rhoi gwybod am beryglon i'r amgylchedd gwaith i'r person priodol
  9. gwefru'r holl beiriannau a chyfarpar sydd angen eu hail-wefru er mwyn eu defnyddio'r diwrnod canlynol
  10. sicrhau bod yr holl offer wedi'u cadw a'u cloi yn ddiogel ar ddiwedd y diwrnod gwaith
  11. gwirio bod goleuadau a socedi trydan wedi'u diffodd wrth gau setiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gofynion a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch
  2. y weithdrefn gywir ar gyfer agor y set ar ddechrau'r diwrnod
  3. sut i ddehongli lluniau technegol a chynlluniau llwyfan er mwyn gosod yr ardal waith
  4. pa beiriannau a chyfarpar bydd eu hangen ar gyfer y diwrnod gwaith
  5. sut i baratoi offer a chyfarpar ar gyfer y gweithgaredd gwaith
  6. sut i gynnal cyfarpar mewn cyflwr gweithio da
  7. gofynion diogelwch yr ardal waith
  8. risgiau diogelwch posibl, gan gynnwys dulliau o ddelio gyda phobl heb awdurdod
  9. gweithdrefnau gosod a chynnal llwybr tân o gwmpas y llwyfan
  10. dosbarthiad tanau a'r diffoddwyr priodol i ddelio â nhw
  11. sut a lle i storio cyfarpar
  12. y weithdrefn gywir ar gyfer cau'r set yn ddiogel ar ddiwedd y gweithgaredd gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSG8

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

gweithwyr llwyfan; cynnal a chadw; diogelwch; gweithdrefnau; cynnal a chadw; set;