Darparu cymorth gan y gweithiwr llwyfan i’r peiriannwr yn y felin bren
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda'r peiriannwr yn y felin i brosesu pren a phren haenog i gwrdd ag anghenion ar gyfer y set. Mae'n gofyn am gyfrifo faint o ddeunydd sydd ei angen a sicrhau bod y symiau hynny ar gael ac o’r ansawdd cywir.
Mae'n gofyn bod y gweithiwr llwyfan yn cyflawni gwaith gweithiwr melin ac yn gweithio gyda'r peiriannwr ar sawl gwahanol beiriant gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth a phrotocolau a gyda gwybodaeth ddigonol o’r gwahanol brosesau mae’n rhaid i ddarn o bren fynd trwyddynt fel ei fod wedi’i baratoi yn llawn. Er mwyn cwblhau'r broses mae'n rhaid i'r deunydd sydd wedi'i baratoi gael ei ddanfon at i'r llefydd gofynnol ar y set neu mewn lleoliad allanol.
Mae'r swydd hon ar gyfer gweithwyr llwyfan sy'n arbenigo fel gweithwyr melin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno gyda'r peiriannwr pren ar faint o ddeunydd sydd ei angen ar gyfer pob rhestr dorri
- trefnu bod y swm gofynnol o ddeunydd yn barod ac ar gael i'w ddefnyddio
- gwirio bod ansawdd y pren neu bren haenog sydd wedi'i ddewis yn cwrdd â gofynion y gweithgaredd penodol
- pan fydd angen pren ar gyfer ei saernio,
dewiswch y pren gorau ar gyfer y gwaith - dilyn y drefn gytunedig i gwblhau'r gorffeniad gofynnol ar yr eitemau
- trefnu bod yr eitemau gorffenedig yn cael eu symud i'r lleoliad gofynnol
- defnyddio cyfarpar diogelwch personol ac amddiffynwyr diogelwch yn ôl y gofyn
- sicrhau bod pob gweithgaredd sy'n ymwneud â gweithio peiriannau a symud pren neu bren haenog yn cael eu cyflawni drwy gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r
protocolau iechyd a diogelwch - gwirio'n rheolaidd bod y system echdynnu llwch yn gweithio'n gywir ac a oes angen gwagio'r bagiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio ar beiriannau peryglus
- pa mesurau diogelu a chyfarpar diogelwch personol i'w defnyddio wrth weithio ar beiriannau peryglus
- sut i weithio'r peiriannau dan arweiniad y peiriannwr pren
- gweithdrefnau asesu risg
- sut i leoli a gosod offer yn ddiogel yn eu lle
- nodweddion a mathau o wahanol bren a phren haenog gaiff eu defnyddio mewn cynhyrchiad ffilm fel coed derw, ynn, balsa, pinwydd
- sut i gyfrifo faint o bren sydd ei angen er mwyn cwrdd â'r galw am bren sydd wedi'i dorri
- sut i drefnu'r pren yn y storfeydd a'i gasglu neu drefnu ei fod yn cael ei ddanfon
- y gwahanol brosesau y gallai fod eu hangen ar
gyfer pob darn o bren - y math o bren i'w ddewis i'w ddefnyddio ar gyfer saernïo pren
- sut i drefnu bod eitemau gorffenedig yn cael eu danfon
- pwysigrwydd gweithio'n effeithlon gyda'r peiriannwr pren a/neu drowyr a dilyn cyfarwyddiadau wrth weithio gyda'r peiriannau