Gosod cefnau setiau yn ddiogel

URN: SKSSH5
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod cefnau setiau ac oherwydd eu pwysau a'r gost sydd ynghlwm, mae gofyn eich bod yn defnyddio a lleoli peiriannau yn ofalus. Mae'n rhaid ichi hefyd sicrhau eich bod yn gosod cefnau setiau gyda gofal gan roi sylw i'w maint, defnydd a lleoliad cywir.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr llwyfan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod y rigin wedi’i godi i safon a
    therfyn pwysau digonol er mwyn dal cefn y set
  2. cadw'r ardaloedd gwaith yn lân heb faw a llwch ac wedi'u gorchuddio gyda phapur crefft
  3. sicrhau nad oes unrhyw ddifrod na llwch a baw yn
    mynd ar gefn y set wrth ei drafod 
  4. gweithio a lleoli peiriannau er mwyn cyrraedd at y rigin
  5. gosod cefnau setiau gan ddilyn y gweithdrefnau cytunedig
  6. gosod cefn y set yn y lle cywir a'i osod yn dynn ar y top neu'r gwaelod
  7. gosod cefn y set yn dynn gan ddefnyddio technegau gosod a chlymu ar lefel dyniant addas
  8. gosod cefnau setiau yn ôl cyfarwyddiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i afael mewn cefnau setiau er mwyn osgoi difrod a baw
  2. lleoliad gofynnol cefn set a'i fod yn rhedeg yn llorweddol os ydy o'n ffurfio cefn trem
  3. y technegau gosod addas ar gyfer gosod y cefn yn dynn fel cefn ffotograffiaeth, glas, lliain gwyn a translight
  4. y lefel gywir o dyniant sy’n addas i’r defnydd o gefn y set
  5. y gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio ar uchder uchel, defnyddio cyfarpar mynediad trydanol a gweithrediadau codi

  6. sut i leihau'r risg o gefnau setiau yn disgyn a tharo pobl neu'r gwaelod difrod i gyfarpar

  7. pa fath o gymorth sydd ei angen wrth osod cefn y set
  8. terfyn pwysau unrhyw gyfarpar mynediad trydanol gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd y gwaith
  9. defnydd clymu a gosod priodol sy'n addas ar gyfer pwysau cefn y set fel rhaff neu gwlwm bynji
  10. sut i osgoi crychu cefn y set wrth ei osod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSG6

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

gweithwyr llwyfan; gosod; set; cefnau; gweithio; peiriannau;