Cynhyrchu darnau set gyda gorffeniadau arbenigol
URN: SKSSH4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu gorffeniadau arbenigol ar ddarnau set sydd eu hangen gan gynnwys pren, cerrig, effaith briciau, sugno ffurfiad a brwsio, a llosgi pren i greu gorffeniad oed arbennig.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwybod beth sydd ei angen, erbyn pryd ac felly pa ddeunyddiau a chyfarpar sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu'r gorffeniad dymunol. Mae angen ichi allu cynhyrchu'r eitemau gyda'r fanyleb gywir a gyda'r gorffeniad dymunol.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr llwyfan a gweithwyr llwyfan wrth gefn sy'n paratoi gorffeniadau arbenigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio offer a chyfarpar gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth a phrotocolau
- defnyddio cyfarpar diogelwch personol yn ôl y gofyn
- dewis deunyddiau ar gyfer y gwaith sydd ei angen gan ddilyn cyfarwyddiadau
- dewis deunyddiau a'u gosod er mwyn creu'r gorchuddion dymunol
- creu effeithiau a gorffeniadau pren yn dilyn cyfarwyddiadau gan ddefnyddio technegau brwsio a llosgi hyd at y dyfnder a'r sglein sydd ei angen
- gorchuddio bagiau gwynt yn ôl y fanyleb a chwblhau'r effaith cyfan gan wneud y defnydd gorau o ddeunyddiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- offer a chyfarpar sydd ei angen ar gyfer y gwaith
- cynlluniau a manylebau i'w dilyn
- y technegau gaiff eu defnyddio i greu'r gorffeniadau sydd eu hangen
- sut i ddefnyddio offer a pheiriannau yn ddiogel
- gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio gyda chyfarpar trydanol ac offer llaw
- risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio offer a chyfarpar trydanol
- sut i adeiladu fframiau pren i faint i'w defnyddio fel bagiau gwynt
- y gorchudd priodol ar gyfer bagiau gwynt fel lliain gwyn neu hesian
- sut i osod gorchuddion yn dynn ar fframiau pren a deunyddiau priodol ar gyfer y dasg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSG5
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
gweithwyr llwyfan; set; darnau; arbenigol; gorffeniadau; pren; cerrig; bric; effeithiau; sugno ffurfiad; brwsio; llosgi; oed;