Codi, symud a chlirio darnau ac eitemau set

URN: SKSSH1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chodi a symud darnau set i'w lle gofynnol gan ddefnyddio dulliau diogel ac effeithlon a chlirio setiau ar ddiwedd y cynhyrchiad.

Mae'n gofyn eich bod yn gwybod beth ydy maint a diben yr eitemau sydd i'w symud, sut i sicrhau eu bod yn cael eu symud yn ddiogel ac nad ydych chi'n gorlwytho offer cludo.

Mae'n gofyn am symud yr eitemau o gwmpas ar ôl-gerbydau mewn llefydd tynn a chael gwared ar yr eitemau hynny nad oes eu hangen ddim mwy unwaith bydd y cynhyrchiad ar y rhan yna o'r set wedi gorffen.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr llwyfan, is-fformyn a goruchwylwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gweithio yn unol â'r amserlen gynhyrchu
  2. adnabod y math o gludiant sy'n addas ar gyfer yr eitemau a gwirio ei fod ar gael
  3. cydlynu gweithgareddau gwaith gydag aelodau eraill y tîm
  4. sicrhau bod gweithgareddau yn cael eu harwain yn ddiogel ac effeithlon
  5. pacio eitemau yn ddiogel a chywir er mwyn osgoi unrhyw ddifrod
  6. symud llwythi i'w safle gan ddefnyddio offer addas er mwyn sicrhau cludiant diogel
  7. gosod y llwythi yn dynn a chywir i'w cludo
  8. sicrhau bod ôl-gerbydau wedi'u bachu i gerbydau; 
  9. cludo darnau set yn ddiogel o gwmpas y stiwdio neu yn uniongyrchol i'r storfa gan ddefnyddio offer sglefrio
  10. symud bagiau gwynt a darnau set i mewn ac allan o safle yn dilyn cyfarwyddyd, gan ddefnyddio offer addas
  11. symud cerbydau ac ôl-gerbydau, gan osgoi peryglon fel ceblau, gorsafoedd gweithio, darnau set eraill a gweithwyr eraill wrth wneud hynny
  12. dadlwytho danfoniadau gan ddefnyddio peiriannau a thechnegau gafael priodol yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch
  13. cadw darnau set yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  14. defnyddio offer a chyfarpar addas i symud darnau set
  15. defnyddio offer a pheiriannau yn ddiogel i glirio setiau
  16. sicrhau bod yr holl wastraff yn cael ei ailgylchu neu ei waredu gan ddilyn deddfwriaeth a rheoliadau gwastraff perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr amserlen gynhyrchu ar gyfer y gwaith
  2. swyddi a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
  3. nodweddion yr eitemau gaiff eu cludo a dulliau cludo addas
  4. sut i bacio eitemau yn ddiogel i'w cludo
  5. lleoliadau dadlwytho penodol ar gyfer danfoniadau
  6. sut i symud llwythi â llaw heb wneud niwed personol
  7. sut i osod bagiau gwynt yn dynn ar ôl-gerbydau fframiau 'A'
  8. terfynau pwysau cerbydau ac offer
  9. technegau clymu syml ar gyfer darnau set a pha mor addas ydyn nhw ar gyfer y dasg
  10. sut i adnabod unrhyw beryglon yng ngweithgaredd y gwaith
  11. sut a phryd i ddweud wrth y tîm cynhyrchu am unrhyw rwystr i weithredu'n ddiogel; 
  12. peryglon symud a chludo eitemau yn y gweithle a sut i leihau'r risgiau
  13. eich cyfrifoldebau eich hun o dan reoliadau statudol Iechyd a Diogelwch
  14. sut i gael gwared ar beryglon, yn ôl y gofyn, gan osgoi gwneud niwed i'ch hun ac i eraill
  15. a ydy setiau am gael eu gwaredu neu eu clirio a'u pacio
  16. y ffordd gyflymaf a’r fwyaf diogel o symud y set o'r llwyfan
  17. yr offer priodol ar gyfer datgymalu'r set a sut i'w defnyddio
  18. pa eitemau mae modd eu hailgylchu neu eu gwaredu, a'r dulliau ailgylchu a gwaredu perthnasol
  19. rheoliadau a deddfwriaeth gwastraff ar gyfer gwaredu ac ailgylchu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSG1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

gweithwyr llwyfan; codi; trosglwyddo; clirio; set; darnau; is-fformyn; ffrâm "A";