Gosod a defnyddio offer gwaith coed ar gyfer cynhyrchiad sgrîn
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo a gosod a defnyddio peiriannau sefydlog neu hawdd eu cludo wrth gynhyrchu cynnyrch neu eu gosod at ei gilydd ar setiau ffilm neu deledu. Gall hyn gynnwys peiriannau gwaith coed fel llifiau crwn, peiriannau plaenio, tewychwyr, cylchlifiau a morteisiau. Gall hefyd gynnwys llifiau sy’n gweithio gyda metel, peiriannau llifanu a driliau. Bydd hefyd disgwyl ichi gynnal a chadw’r offer mewn cyflwr defnyddiol drwy, er enghraifft, newid llafnau llif neu ddisgiau llifanu. Mae disgwyl ichi ymgymryd â gweithgareddau fel plaenio pren, torri pren a dalennau sydd wedi’u gwneud yn ogystal â thorri neu drilio a thapio metel anhaearnaidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli cyfarwyddiadau a manylebau ar gyfer cyflawni’r gwaith
- dewis yr offer a chyfarpar gwaith coed er mwyn gwneud y gwaith
- rhoi gwybod pan na fydd offer, cyfarpar neu ddeunyddiau ar gael yn syth neu pan na fyddant mewn cyflwr cywir
- paratoi’r offer a chyfarpar gwaith coed yn barod i’w defnyddio
- adnabod ar gyfer beth gaiff offer a chyfarpar gwaith coed eu defnyddio
- diogelu’r ardal waith rhag difrod bob tro
- defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel a’u gadael mewn cyflwr defnyddiol
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- cadw’r ardal lle’r ydych wedi bod yn gweithio mewn cyflwr glân a thaclus
- cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol i gadw at arferion gwaith diogel
- cwblhau’r gwaith yn brydlon er mwyn cadw at amserlen y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut mae cael a dehongli’r wybodaeth sydd ei hangen i wneud cynhyrchion arferol
2. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau gwaith coed sydd eu hangen
3. sut mae newid llafnau llif, disgiau ayb fel eu bod yn barod i’w defnyddio
4. y dulliau o wneud cynhyrchion arferol
5. y gwahanol brosesau mae disgwyl ichi eu cwblhau gan ddefnyddio offer a chyfarpar pŵer
6. y cyfarpar diogelu personol i’w ddefnyddio
7. sut mae diogelu’r gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
8. yr amserlen rydych chi’n gweithio tuag ati
9. i bwy mae angen rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu anawsterau wrth gwblhau’r gwaith
10. pwysigrwydd gweithio mewn tîm wrth weithio ar setiau ffilm neu deledu
11. sut i adnabod a chael gwared ar beryglon yn yr amgylchedd gwaith
12. deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion statudol a chyfundrefnol