Codi a datgymalu platfformau mynediad a gwaith ar gyfer cynhyrchiad sgrîn

URN: SKSSC5
Sectorau Busnes (Suites): Crefftau Set
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â chodi a datgymalu platfformau mynediad a gwaith. Bydd gofyn ichi godi, symud, lleoli, diogelu, datgymalu a symud yr offer oddi yno sy’n cynnwys ysgolion, ysgolion plygu, platfformau a thyrau yn ogystal â sgaffaldiau a phodia.
 
Ar rai achlysuron byddwch yn codi ac yn datgymalu offer i’ch defnyddio eich hun ac ar adegau eraill bydd hyn er mwyn i bobl eraill eu defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  dehongli cyfarwyddiadau a manylebau ar gyfer cyflawni’r gwaith
2.  adnabod y cyfarpar sydd ei angen er mwyn codi a datgymalu platfformau mynediad a gwaith
3.  cadarnhau ym mhle mae angen gosod y cyfarpar
4.  dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn ôl y gofyn
5.  cael cymorth gan eraill er mwyn codi cyfarpar yn ddiogel
6.  codi neu roi cyfarpar yn ei le er mwyn galluogi eraill i’w ddefnyddio
7.  symud cyfarpar yn ddiogel yn ôl y gofyn
8.  datgymalu cyfarpar yn ddiogel a’i gadw yn ôl y gofyn
9.  pacio cyfarpar gan gadarnhau bod yr holl eitemau yno ac mewn cyflwr cywir a defnyddiol
10.  llwytho trolïau cludo er mwyn symud unrhyw gyfarpar oddi yno
11.  diogelu’r ardal waith rhag unrhyw ddifrod bob tro
12.  defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel a’u cadw mewn cyflwr defnyddiol
13.  cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
14.  cadw’r ardal waith mewn cyflwr glân a thaclus
15.  cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol
16.  cwblhau’r gwaith o fewn amserlen y cynhyrchiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  sut mae cael a dehongli’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni’r gwaith
2.  yr offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen i godi, symud neu ddatgymalu cyfarpar
3.  sut i adnabod a dod o hyd i’r cyfarpar sydd ei angen er mwyn gosod, symud neu ddatgymalu platfformau mynediad a gwaith
4.  sut i godi, symud neu ddatgymalu amrywiaeth o wahanol fathau o gyfarpar
5.  sut i fonitro cyflwr cyfarpar er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddefnyddiol a diogel
6.  sut mae pacio a chludo cyfarpar
7.  y cyfarpar diogelu personol bydd angen ichi ei ddefnyddio
8.  amserlen y cynhyrchiad
9.  sut mae diogelu’r gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
10.  i bwy mae angen rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu anawsterau wrth gwblhau’r gwaith
11.  sut mae adnabod a chael gwared ar beryglon yn yr amgylchedd gwaith
12.  deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion statudol a chyfundrefnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC6

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

crefftau set; ffilm; teledu; codi; datgymalu; mynediad; gwaith; platfformau; symud; lleoli; diogelu; datgymalu; ysgolion; ysgolion plygu; platfformau; tyrau; sgaffaldiau; podia; iechyd; diogelwch; cynhyrchiad;