Atgyweirio cydrannau plastr ffeibrog cyfansawdd ar gyfer cynhyrchiad sgrîn
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo ag atgyweirio cydrannau plastr ffeibrog cyfansawdd ar gynhyrchiad sgrin. Bydd hyn yn cynnwys amrediad eang o waith plastr, gan gynnwys dado, cornisiau, sgertins, paneli a bwâu.
Mae’r safon hon ar gyfer crefftwyr set a phlastrwyr addurnol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dehongli brîff y dyluniad a chyfarwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith sydd i’w wneud a gofynion penodol ar gyfer y set neu leoliad
2. cyfathrebu manylion brîff y dyluniad a’r amserlen gydag aelodau’r tîm
3. dewis offer, deunyddiau a chyfarpar er mwyn cwblhau’r gwaith
4. cael faint yn union o ddeunyddiau sydd eu hangen er mwyn atgyweirio cydrannau gwaith plastr
5. defnyddio cyfarpar diogelu personol pan fo angen
6. tynnu unrhyw gydrannau nad oes eu hangen heb achosi difrod i’r gwaith plastr presennol
7. atgynhyrchu mowldiau
8. ffurfio a chryfhau uniadau
9. ffurfio gwrthdroeon a therfynau mewnol ac allanol
10. gosod cydrannau ychwanegol mewn modd diogel
11. defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel a’u cadw mewn cyflwr diogel a defnyddiol
12. diogelu’r gwaith a’r ardal gyfagos rhag unrhyw ddifrod posibl
13. cyfathrebu gydag aelodau’r tîm i sicrhau bod y gwaith yn cwrdd â brîff y dyluniad
14. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
15. cadw’r ardal waith mewn cyflwr glân a thaclus
16. cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol i gadw at ymarferion gwaith diogel
17. cwblhau eich gwaith er mwyn cadw at amserlen y cynhyrchiad a chwrdd â brîff y dyluniad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut mae cael a dehongli brîff y dyluniad, cyfarwyddiadau ac amserlen y cynhyrchiad er mwyn mynd ati i atgyweirio gwaith plastr
2. yr offer, y cyfarpar a'r deunyddiau sydd eu hangen i atgyweirio gwaith plastr
3. sut mae amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith
4. y cyfarpar diogelu personol bydd angen ei ddefnyddio
5. sut mae cynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau
6. dulliau o atgyweirio cydrannau gwaith plastr i’r safon ofynnol
7. sut mae penderfynu ar ddulliau gweithio gorau a chytuno ar hyn gyda’r aelodau tîm priodol
8. gyda phwy mae angen cyfathrebu gwybodaeth yn ymwneud ag amserlenni
9. sut mae mesur, cyfrifo a marcio’r ardal gwaith plastr yn gywir
10. sut mae cofnodi mesuriadau a chadw’r wybodaeth yma
11. sut mae atgynhyrchu mowldiau yn unol â brîff y dylu
12. sut mae ffurfio a chryfhau uniadau yn ôl y gofyn
13. sut mae ffurfio gwrthdroeon a therfynau mewnol ac allanol
14. sut mae gosod a diogelu cydrannau yn ddiogel
15. y rheoliadau a gofynion gwaith ar gyfer yr amgylchedd, stiwdio neu leoliad penodol
16. sut mae cofnodi a chadw gwybodaeth ar gyfer atgyweirio gwaith plastr
17. sut i ddiogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
18. amserlen y cynhyrchiad
19. polisïau cyfundrefnol yn ymwneud â gwaredu ac effaith ar yr amgylchedd
20. sut i adnabod a chael gwared ar beryglon yn yr amgylchedd gwaith
21. deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion statudol a chyfundrefnol