Cynhyrchu a gosod cydrannau gwydr ffibr ar gyfer cynhyrchiad sgrîn

URN: SKSSC3
Sectorau Busnes (Suites): Crefftau Set
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â chynhyrchu a gosod cydrannau gwydr ffibr ar gyfer cynyrchiadau. Bydd hyn yn cynnwys gosod cydrannau ar wynebau llorweddol, fertigol, goleddfol a chylchol.
 
Bydd angen ichi ddefnyddio amrediad eang o ymarferion gwaith er mwyn cyflawni’r gwaith yma. Mae hyn yn cynnwys torri, gosod, drilio, brwsio, llifio, llifanu, trwsio, rholio a lamineiddio.
 
Bydd hefyd angen ichi fod yn gyfarwydd â nifer fawr o ddeunyddiau. Bydd y rhain yn cynnwys cyfryngau rhyddhau, haenau o gel, haenau o resin, cyflymyddion a chatalyddion.
 
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda chrefftau set a chreu celfi effeithiau arbennig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  dehongli’r cyfarwyddiadau a brîff y dyluniad ar gyfer y gwaith sydd i’w wneud
2.  cyfathrebu manylion brîff y dyluniad a’r amserlen gydag aelodau’r tîm
3.  dewis a pharatoi offer, deunyddiau a chyfarpar i wneud y gwaith
4.  cael gafael ar y deunyddiau penodol sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu a gosod cydrannau plastig
5.  paratoi’r cefndiroedd, swbstradau a mowldiau
6.  dewis y deunyddiau, cydrannau a chyfarpar penodol
7.  mesur a marcio’r ardal waith sydd ei hangen
8.  paratoi’r modelau ar gyfer mowldiau a chydrannau
9.  cymysgu a gosod deunyddiau a chydrannau ar gyfer mowldiau ac wynebau cefndirol
10.  adnabod yr elfennau sydd wedi achosi diffygion a chamau angenrheidiol i’w cywiro
11.  rhoi’r adrannau yn gywir mewn rhes yn barod i’w gosod
12.  gwirio bod yr holl uniadau sydd eu hangen yn eu lle
13.  gorffen pob cydran yn gywir yn barod ar gyfer y cynhyrchiad   
14.  defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel a’u gadael mewn cyflwr defnyddiol
15.  diogelu’r gwaith a’r ardal gyfagos rhag unrhyw ddifrod posibl
16.  cyfathrebu gydag aelodau’r tîm i sicrhau bod y gwaith yn cwrdd â brîff y dyluniad
17.  cadw’r ardal waith mewn cyflwr glân a thaclus
18.  cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn unol â gofynion cyfundrefnol
19.  cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol
20.  cwblhau’r gwaith er mwyn cadw at amserlen y cynhyrchiad a chwrdd â brîff y dyluniad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  sut mae cael a dehongli brîff y dyluniad, cyfarwyddiadau ac amserlen y cynhyrchiad er mwyn cyflawni’r gwaith
2.  yr offer, cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen er mwyn gwneud y gwaith
3.  sut mae amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith
4.  sut i gynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau
5.  sut i osod cydrannau yn y ffordd fwyaf diogel
6.  sut i benderfynu ar y dulliau gweithio gorau a chytuno ar hyn gyda’r aelodau tîm priodol
7.  sut i roi adrannau yn gywir mewn rhes yn barod i’w gosod
8.  sut i baratoi ymylon i’w huno
9.  sut mae gwirio bod uniadau addas yn eu lle
10.  sut mae sicrhau bod yr holl gydrannau wedi’u gorffen yn gywir
11.  gyda phwy mae angen cyfathrebu gwybodaeth yn ymwneud ag amserlenni
12.  sut mae mesur, cyfrifo a marcio’r ardal osod yn gywir
13.  sut mae gwirio bod yr holl gydrannau ac atgyfnerthiadau yn ddiogel
14.  y rheoliadau a gofynion gwaith ar gyfer yr amgylchedd, stiwdio neu leoliad penodol
15.  sut mae cofnodi a chadw gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gosod mowldiau
16.  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
17.  amserlen y cynhyrchiad
18.  polisïau cyfundrefnol yn ymwneud â gwaredu ac effaith ar yr amgylchedd
19.  sut i adnabod a chael gwared ar beryglon yn yr amgylchedd gwaith
20.  deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion statudol a chyfundrefnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC21

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

crefftau set; ffilm; teledu; cynhyrchu; gosod; gwydr; cyfnerthedig, gwydr ffibr; cynhyrchiad; goleddfol; cylchol; wynebau; torri; gosod; drilio; brwsio; llifio; llifanu; trwsio; rholio; lamineiddio; cyfryngau rhyddhau; haen o gel; haen o resin; cyflymyddion;