Cynhyrchu a gosod dyluniadau stensil cymhleth ar gyfer cynhyrchiad sgrîn
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo â chynhyrchu dyluniadau stensil arbenigol a’u gosod ar wynebau. Mae gofyn ichi gynhyrchu dyluniadau stensil arbenigol yn ogystal â’u lleoli a’u gosod ar wynebau.
Bydd angen ichi osod a llunio stensiliau haen sengl ac aml-haen. Efallai bydd gofyn ichi ddefnyddio paent sylfaen dŵr neu baent sylfaen toddydd ar gyfer rhediadau llinellol yn ogystal ag ar waliau cyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dehongli cyfarwyddiadau a manylebau ar gyfer y gwaith sydd i’w wneud
2. dewis yr offer a'r adnoddau i gynhyrchu a gosod dyluniadau stensil cymhleth
3. glanhau wynebau yn barod i osod stensiliau arnynt
4. gosod a llunio stensiliau platiau sengl ac aml-blât
5. cynhyrchu dyluniadau stensil gyda phaent sylfaen dŵr a phaent sylfaen toddydd ar gyfer rhediadau llinellol a waliau cyfan
6. cynhyrchu effeithiau graddedig gyda brws, sbwng a chwistrell
7. diogelu’r ardal waith rhag difrod bob tro
8. defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel a’u cadw mewn cyflwr diogel a defnyddiol
9. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
10. cadw’r ardal waith mewn cyflwr glân a thaclus
11. cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol i gadw at ymarferion gwaith diogel
12. cwblhau eich gwaith er mwyn cadw at amserlen y cynhyrchiad a chwrdd â brîff y dyluniad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael a dehongli’r cyfarwyddiadau a manylebau gofynnol i gynhyrchu a gosod dyluniadau stensil dyrys
- yr offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen i gynhyrchu a gosod dyluniadau stensil dyrys
- y cyfarpar diogelu personol bydd angen ei ddefnyddio
- sut mae gwirio wynebau sydd wedi’u paratoi yn flaenorol er mwyn cadarnhau eu bod yn addas a’u paratoi i’r cyflwr sy’n ofynnol
- y gwahanol fathau o baentiau gallwch eu defnyddio a’r gwahanol fathau o wynebau byddwch yn gweithio â nhw
- sut mae cynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau
- sut mae gosod a llunio stensiliau platiau sengl ac aml-blât
- sut mae cynhyrchu effeithiau graddedig
- sut i ddiogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
- amserlen y cynhyrchiad
- i bwy mae angen rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu anawsterau wrth gwblhau’r gwaith
- sut mae adnabod a chael gwared ar beryglon yn yr amgylchedd gwaith
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion statudol a chyfundrefnol