Gosod finyls llydan i’w defnyddio ar ffilm mewn cynhyrchiad sgrîn

URN: SKSSC1
Sectorau Busnes (Suites): Crefftau Set
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â gosod finyls llydan. Caiff hyn ei wneud ar y set a bydd disgwyl ichi osod finyls gyda defnydd ar y cefn yn ogystal â finyls gyda phapur ar y cefn.
 
Mae’r safon hon ar gyfer addurnwyr setiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli cyfarwyddiadau a manylebau er mwyn gallu cyflawni’r gwaith
  2. dewis yr offer, cyfarpar a deunyddiau er mwyn gosod finyls llydan
  3. rhoi gwybod pan na fydd offer, cyfarpar a deunyddiau ar gael yn syth neu pan na fyddant mewn cyflwr cywir
  4. paratoi deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith
  5. cadarnhau bod wynebau wedi’u paratoi yn gywir cyn mynd ati i osod finyls llydan
  6. rhoi faint yn union o lud sydd ei angen er mwyn gallu gosod y finyls yn effeithiol
  7. mesur a thorri finyls cyn eu gosod a’u gludo
  8. gosod finyls gan sicrhau bod unrhyw batrymau yn cyd-fynd yn gywir, lle bo angen
  9. cwtogi neu dorri finyl i greu gorffeniad cywir sy’n cwrdd â’r safon benodol gan ddefnyddio’r offer cywir
  10. diogelu’r ardal waith rhag difrod bob tro
  11. defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel a’u gadel mewn cyflwr defnyddiol
  12. cael gwared ar wastraff yn dilyn gweithdrefnau cyfundrefnol
  13. cadw’r ardal waith mewn cyflwr glân a thaclus
  14. cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol er mwyn cadw at ymarferion gwaith diogel
  15. cwblhau’r gwaith er mwyn cadw at amserlen y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  sut mae cael a dehongli’r wybodaeth sydd ei hangen i osod finyls llydan
2.  yr offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen i osod finyls llydan
3.  y cyfarpar diogelu personol sydd angen ei ddefnyddio
4.  sut mae amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith
5.  y gwahanol fathau o finyls gallwch eu defnyddio a’r gwahanol wynebau bydd angen gosod y finyls arnynt
6.  sut i gynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau
7.  y dulliau gaiff eu defnyddio er mwyn gosod finyls i’r safon gywir
8.  y gorffeniad sydd ei angen unwaith bydd gorchuddion wal wedi’u gosod
9.  sut i ddiogelu’r gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
10.  amserlen y cynhyrchiad
11.  i bwy mae angen rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu anawsterau wrth gwblhau’r gwaith
12.  sut i adnabod a chael gwared ar beryglon yn yr amgylchedd gwaith
13.  deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion statudol a chyfundrefnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC7

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

crefftau set; llydan; ffilm; teledu; finyls; set; defnydd ar y cefn; papur ar y cefn; offer; cyfarpar; deunyddiau; ffilmio; cynhyrchiad;