Darparu sain wedi’i fwyhau
URN: SKSS10
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â darparu sain wedi’i fwyhau ar gyfer cyfranwyr neu gynulleidfaoedd.
Mae’n ymwneud â darparu signal sain ar gyfer ei chwyddo sy’n rhydd o unrhyw nam ac sy’n cwrdd â gofynion o ran ansawdd, hyglywedd a lefel. Mae’n cynnwys lleoli seinyddion i wneud yn fawr o ‘coverage’, lleihau goferu ar feicroffonau, cydbwyso ffynonellau sain, rheoli ychwanegiad a lleoliad y system a gwneud meicroffonau’n gyfartal er mwyn osgoi sŵn udo uchel pan fydd sain o uchelseinydd yn cael ei fwydo yn ôl i feicroffon (“howl round” neu “feedback” yn y Saesneg).
Bydd y Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â darparu sain wedi’i fwyhau ar gyfer cyfranwyr neu gynulleidfaoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cadarnhau fod eitemau offer yn gweithredu’n effeithiol, a’u bod yn cwrdd â gofynion diogelwch
P2 cadarnhau fod signalau sŵn sydd i’w bwydo i gyfranwyr yn addas i’w pwrpas, yn unol â gofynion cynhyrchu
P3 lleoli uwch-seinyddion yn ddigon agos at gyfranwyr i osgoi gorliwio ac oedi o ran amser
P4 lleoli a diogelu offer a llwybrau ceblau er mwyn iddynt fod yn dderbyniol yn weledol ac yn ddiogel i eraill
P5 cadarnhau fod eitemau o offer ar gyfer defnydd personol yn ddiogel, yn lân, yn hylan, yn weledol dderbyniol ac yn addas ar gyfer cyfranwyr
P6 cadarnhau fod signalau sain ar gyfer eu mwyhau yn rhydd o namau ac yn addas i’w pwrpas
P7 darparu sain wedi’i fwyhau ar lefel ac eglurder digonol ar gyfer cyfranwyr a’r gynulleidfa
P8 gwirio fod sain sydd wedi’i fwyhau yn dod o fewn terfynau diogel ac nad yw’n effeithio’n andwyol ar gaffael sain gan eraill
P9 nodi cyfyngiadau meicroffonau wrth gyfranwyr a fydd yn osgoi adborth ac na fydd yn creu gorliwiad sain a fydd yn effeithio ar gaffael sain
P10 lleoli meicroffonau a defnyddio caffaeliad system a chydraddoliad i osgoi sŵn udo (pan fydd sain o uchelseinydd yn cael ei fwydo yn ôl i feicroffon) a goferu sain
P11 addasu offer i leihau effeithiau mathau o ystafell ar sain a atgynhyrchir
P12 adnabod, lleihau a datrys unrhyw ddiffygion a chamweithio mewn systemau ac offer yn ystod perfformiad gan amharu cyn lleied â phosib ar y perfformiad
P13 esbonio materion technegol wrth bobl annhechnegol mewn ffyrdd a fydd yn eu helpu i ddeall eu harwyddocâd
P14 cyfathrebu gyda chyfranwyr, cydweithwyr ac eraill ynghylch lleoli offer, problemau â ffynonellau sain a phosibiliadau creadigol, ar adegau addas
P15 cynhyrchu unrhyw waith papur sydd i’w drosglwyddo mewn fformatau disgwyliedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y gofynion cynhyrchu sain gan gynnwys disgwyliadau cyfranwyr, cynulleidfaoedd a chleientiaid neu gynyrchiadau
K2 pwysigrwydd hylgywedd deialog yn enwedig o ystyried namau clyw poblogaeth sy’n heneiddio
K3 strategaethau effeithiol i wella hygylwedd deialog
K4 mathau o gymysgwyr, uwch-seinyddion, seinyddion, clustffonau ac offer monitro yn y glust a’u nodweddion, a sut i wneud yn fawr o’r modd y’u gweithredir i gyfranwyr, ac er mwyn cynhyrchu’r sain angenrheidiol
K5 y safonau rhyng-gysylltu perthnasol a ddefnyddir
K6 egwyddorion acwstig perthnasol, a sut i’w gweithredu yn y cyd-destun presennol
K7 sut i asesu newidiadau mewn acwsteg oherwydd presenoldeb cynulleidfa
K8 gofynion deddfwriaeth a gweithdrefnau diogelwch, a sut y gallent effeithio ar ddarparu sain yn y cyd-destun presennol
K9 y technegau a ddefnyddir gyda systemau aml-seinydd a ffynhonnell pwynt
K10 systemau matrics a chyfeirio
K11 manteision ac anfanteision rhanwyr gweithredol ac anweithredol
K12 oblygiadau defnyddio dyfeisiadau atal sŵn udo (pan fydd sain o uchelseinydd yn cael ei fwydo yn ôl i feicroffon) a chlwydi sŵn
K13 defnyddio prosesi signalau a sut y mae systemau cyfyngu ar lefelau sain yn gweithredu
K14 dangosyddion namau, methiannau, a thoriadau, sut i’w hadnabod a pha weithredu adferol y gellir ei wneud, yn enwedig ar gyfer sŵn udo neu oferu o glustffonau
K15 gofynion hylendid, sut i gynnal a chadw glendid a hylendid eitemau offer personol
K16 unrhyw sensitifrwydd all fod gan gyfranwyr i wisgo clustffonau neu offer yn y glust, a sut i addasu defnydd o’r offer i oresgyn hyn
K17 y fformatau sydd eu hangen ar gyfer dogfennu, a sut i gwblhau dogfennaeth yn glir a chywir
K18 pam ei bod hi’n bwysig cyfathrebu mewn dull clir, cwrtais a darbwyllol â chydweithwyr a chyfranwyr, a sut i wneud hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSS10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Sain, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Wedi’i fwyhau, Signal, Ansawdd