Cynhyrchu cymysgiadau sain o berfformiadau byw

URN: SKSS08
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â chynhyrchu cymysgiadau sain o berfformiadau byw. Mae’n ymwneud ag asesu, dethol, lleoli a rheoli ffynonellau sain. Bydd angen i chi gydbwyso sain er mwyn cael yr effeithiau artistig a ddymunir, tra ar yr un pryd yn cynnal y lefel, ansawdd donyddol, delweddau a deallusrwydd stereo ac aml-sianel sy’n angenrheidiol o fewn terfynau technegol.

Bydd y Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â chynhyrchu cymysgiadau sain o berfformiadau byw. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cyfarwyddo aelodau o’r criw i symud meicroffonau ac offer yn unol â gofynion y cynhyrchiad
P2 asesu addasrwydd ffynonellau sain ar gyfer y cymysgiad terfynol yn erbyn gofynion y cynhyrchiad
P3 cynnal asesiad cywir o bob nodwedd o bob ffynhonnell sain
P4 gwirio fod ffynonellau sain yn bodoli mewn acwsteg sy’n addas ar gyfer y sain angenrheidiol
P5 cadarnhau fod gan ffynonellau sain stereo ac aml-sianel gydnawsedd gofynnol
P6 addasu ffynonellau sain er mwyn iddynt fod yn ddigon dealladwy, eu bod yn y lle cywir a bod eu delwedd yn gywir o ran y sain sydd ei angen
P7 lleoli a chydbwyso ffynonellau sain i gael yr effaith artistig a ddymunir
P8 llwyddo i gael trawsnewidiadau rhwng ffynonellau sy’n gywir yn dechnegol ac yn addas yn artistig i’r sain a ddymunir
P9 rheoli lefel y signal cyfansawdd o fewn cyfyngiadau technegol ac o fewn i’r ystod ddeinamig a ddymunir
P10 trafod ffynonellau sain er mwyn cael y lefel, cydbwysedd, ansawdd donyddol, persbectif ac ystod ddeinamig sy’n addas ar gyfer y sain a ddymunir
P11 creu cymysgiadau sain o fewn i gyfyngiadau’r cynhyrchiad
P12 creu cymysgiadau sain sy’n addas i’r cyd-destunau y clywir hwy ynddynt
P13 gwirio fod traciau a chymysgiadau’n cael eu trefnu mewn modd sy’n addas i’w defnyddio’n ddiweddarach gan olygyddion
P14 sicrhau fod unrhyw waith papur yn gywir, yn ddealladwy, yn gyfredol ac yn cydymffurfio â chonfensiynau a ddeellir gan eraill yn y diwydiant
P15 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i adnabod a chywiro unrhyw broblemau o ran creu cymysgiadau, lleihau tarfu ar gyfranwyr a chydweithwyr
P16 dehongli awgrymiadau a cheisiadau creadigol gan y penderfynwyr a phobl annhechnegol eraill yn unol â gweithdrefnau cynhyrchu
P17 awgrymu dewisiadau i’r penderfynwyr a fydd yn bodloni ceisiadau creadigol a gofynion gweithredu’r cynhyrchiad fel ei gilydd
P18 cyfathrebu â chydweithwyr ac eraill am leoli offer a meicroffonau, problemau â ffynonellau sain a phosibiliadau creadigol ar adegau addas
P19 esbonio materion technegol mewn ffyrdd fydd yn galluogi pobl annhechnegol i ddeall eu harwyddocâd
P20 cynnal diogelwch ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion cynhyrchu
P21 monitro ansawdd pob allbwn a chymysgiad ac addasu yn ôl y galw ar gyfer defnyddwyr gwahanol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 gofynion y cyfrannwr, y cleient neu’r cynhyrchiad
K2 y sain ofynnol a ffiniau artistig, technegol a gweithredol y cynhyrchiad
K3 pwysigrwydd cael deialog hyglyw, yn enwedig wrth ystyried namau ar glyw poblogaeth sy’n heneiddio
K4 strategaethau effeithiol i wella hyglywedd deialog ymddygiad addas wrth weithio o flaen cynulleidfa ac ar y cyd â pherfformwyr â phroffil uchel
K5 defnyddio offer cymysgu a phrosesu sain
K6 offer monitro yn y glust a fydd yn gwarchod y clyw ac yn darparu cyfathrebu hyglyw o systemau meic cyswllt (talkback)
K7 egwyddorion acwsteg perthnasol a sut i’w gweithredu
K8 gofynion ar gyfer ystod ddeinamig a hyglywedd
K9 meini prawf gwerthuso’r sain wrth iddo gael ei greu
K10 cyd-destun clywed y cymysgiad, a sut i ystyried hyn wrth greu’r cymysgiad
K11 ar gyfer beth y defnyddir y cynnyrch terfynol a’r offer y clywir ef drwyddo
K12 y ffyrdd gwahanol y gellir trin neu addasu ‘sain’
K13 nodweddion ansawdd a phersbectif y dôn
K14 sut i gael yr arddull sain a ddymunir
K15 egwyddorion acwstig perthnasol a sut i’w gweithredu
K16 offerynnau cerddorol a’u nodweddion, a sut i ddal eu sain
K17 egwyddorion sylfaenol tonyddiaeth, rhythm, melodi, harmoni ac arwyddion amser
K18 anghenion sain ôl-gynhyrchu a golygu, a sut y defnyddir y sain yn ystod ôl-gynhyrchu
K19 cydnawsedd gwrando ar gyfer gwrandawyr mono sy’n deillio o ffynonellau cymysgiad stereo ac aml-sianel
K20 nodweddion a nodweddion gweithredu offer ategol
K21 sut i adnabod a chyfyngu ar ddiffygion posib yn y system fonitro
K22 defnyddio codyddion a dad-godyddion fformat
K23 sut i ddelio â ffynonellau sain gwallus
K24 sut i adnabod, neu ddatblygu a gwerthuso, posibiliadau creadigol
K25 sut i adnabod, neu ddatblygu a gwerthuso, cymwysiadau newydd o egwyddorion a thechnegau sydd wedi hen sefydlu
K26 sut i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid, cyfranwyr a chydweithwyr
K27 sut i drafod ac ymateb i ofynion creadigol a thechnegol penderfynwyr
K28 sut i ddehongli ceisiadau ac awgrymiadau o ran genre penodol neu arddull cymysgiadau sain
K29 pam ei bod hi’n bwysig trin cyfranwyr a chydweithwyr yn gwrtais ac â thact a sut i wneud hynny
K30 gofynion diogelwch sy’n ymwneud â chymysgiadau sain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Sain, Cynhyrchu, Technogol, Ffilm, Teledu, Cymysgiad, Cymysgiadau