Dal sain mewn sefyllfaoedd cynhyrchu nad ydynt yn cael eu rheoli

URN: SKSS05
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â dal sain y tu allan i sefyllfa gynhyrchu sydd wedi ei reoli. Gallai hyn fod ar gyfer rhaglenni dogfen, materion cyfoes, newyddion, teledu realiti neu rai arddulliau drama.

Mae hyn yn ymwneud â chymhwyso doethineb i ddarparu’r ansawdd sain gorau posib, ar fyr rybudd, heb lawer o wybodaeth, ac amserlen neu ofynion sy’n newid yn annisgwyl. Gall sain gael ei ddarparu i gamcorder – a reolir gan weithredydd camera – neu system ddarparu drosglwyddol. Gellir hefyd recordio sain ar yr un pryd i ddyfais recordio ar wahân sydd wedi ei syncroneiddio i’r camera. Unwaith y bydd saethu’n dechrau, mae’n debygol na fydd gan y recordydd sain unrhyw reolaeth dros sain y camera.

Wrth weithio ar drosglwyddiad efallai y byddwch chi’n darlledu’n fyw a bydd angen i chi sefydlu a chynnal cyfathrebiad â’r brif stiwdio. Ymdrinnir â hyn yn SKSS7 Darparu systemau meic cyswllt (talkback)

Mae'r Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n darparu sain mewn sefyllfaoedd cynhyrchu nad ydynt yn cael eu rheoli. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 darparu, neu sicrhau argaeledd, meicroffonau addas ac offer arall addas i’r swydd a’r amgylchedd
P2 lleoli meicroffonau i gael yr ansawdd sain orau bosib, o fewn i gyfyngiadau cynhyrchu a’r amgylchedd
P3 cydlynu defnydd o amledd radio ag unrhyw griwiau sain eraill yn unol â gofynion cynhyrchu
P4 rhoi’r ‘feeds’ sain addas i sianelau camera ac addasu gosodiadau mewnol camerâu i wneud y gorau o ansawdd sain
P5 cyflenwi unrhyw fanylion ysgrifenedig gofynnol mewn fformatau priodol
P6 gweithredu systemau dewislen camerâu i gael sain o’r ansawdd gorau, traciau penodedig a lefelau recordio a monitro
P7 darparu, monitro a gwirio tôn “line-up” ar bob camera, cymysgydd a/neu recordydd yn ôl gofynion
P8 cadarnhau’n rheolaidd fod unrhyw system syncroneiddio’n addas, yn ddigon cywir ac yn gweithredu fel y dylai
P9 cyfathrebu â gweithredwyr camerâu am wybodaeth berthnasol ar adegau addas
P10 gweithredu cymysgwyr sain symudol ar yr un pryd â lleoli meicroffonau ar bolion bŵm
P11 cynhyrchu sain o’r ansawdd orau posib heb ymyrryd â, neu achosi oedi diangen i, gynyrchiadau
P12 gweithredu meicroffon bŵm heb fod yn berygl i chi eich hunan nac eraill ar unrhyw adeg
P13 addasu eich lleoliad yn ystod ffilmio i osgoi taflu cysgod neu adlewyrchiad o ffynonellau goleuni annisgwyl neu arwynebedd sy’n adlewyrchu
P14 recordio sain i beiriannau recordio ar wahân i ffynonellau meicroffon eraill er mwyn darparu traciau sy’n addas i gyd-fynd â lluniau neu gynyrchiadau
P15 gwirio ar gyfleoedd addas fod sain sy’n cael ei recordio’n cwrdd â sain dderbyniol y rhaglen
P16 bod â dillad ac esgidiau diogel neu addas i’r tywydd yn eich meddiant i’ch gwarchod chi eich hunan ac i osgoi peryglu’r cynhyrchiad
P17 bod ag offer cynnal a chadw, tŵls a darnau sbâr yn eich meddiant i drwsio neu newid yn y maes
P18 adnabod namau mewn ceblau a chysylltwyr a’u trwsio’n effeithiol ble bo’n bosib
P19 sicrhau fod system ddibynadwy wrth gefn yn bodoli os bydd meicroffonau’n peidio â gweithio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 y mathau gwahanol o feicroffonau a sut i’w gosod yn gynnil
K2 pwysigrwydd hyglywedd y ddeialog, yn enwedig o ystyried namau clyw poblogaeth sy’n heneiddio
K3 strategaethau effeithiol i wella eglurder clywed deialog
K4 bod gweithio y tu allan i gynhyrchiad a reolir yn cynnig amgylchiadau na ellir mo’u rhagweld a bod angen hyblygrwydd, doethineb a disgresiwn wrth geisio caffael sain addas
K5 y mathau cyffredin o gamcorders cynhyrchu a ddefnyddir gan gynnwys modelau domestig a’r modelau darlledu gorau
K6 sut y bydd modelau camcorder yn amrywio o ran recordio sain, addasrwydd dulliau syncroneiddio, monitro sain a chwarae’n ôl
K7 y mathau gwahanol o ryngwynebau y bydd angen i sain fynd iddynt
K8 technegau dosbarthu trosglwyddo
K9 defnyddio a rheoli amledd radio a rheoli amledd, yn enwedig pan fydd criwiau lluosog yn gweithio
K10 sut i ddal a symud polyn mewn ymarweddiad diogel, o fewn i’ch cyfyngiadau corfforol chi, ac mewn modd y mae’n bosib ei gynnal am gyfnodau o amser a allai fod yn hir.
K11 sut i weithredu offer fel bŵm neu bolyn, a chynnal eich iechyd a’ch diogelwch chi ac eraill, yn enwedig yn ystod symudiadau manwl neu anodd
K12 ffiniau technegol a chyfreithiol sy’n berthnasol i amledd radio
K13 y broses “line-up” sydd ei hangen wrth anfon sain o bellter o gymysgydd
K14 y problemau cyffredin sy’n gysylltiedig â sain a all ddigwydd wrth i gamera gael ei ddefnyddio i ffilmio a sut i osgoi neu wirio amdanynt
K15 technegau cyfathrebu gwahanol i’w defnyddio â gweithredwyr camera a hefyd pan mai nhw yw’r cyfarwyddwr
K16 gwybodaeth berthnasol i’w  chyfathrebu i weithredwyr camera, gan gynnwys sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar ansawdd sain neu osodiadau’r camera, sut y gallant ddewis yr hyn a gyflenwir, darpar risgiau i’w hiechyd a diogelwch neu gyfleoedd ffilmio yn yr amgylchedd ehangach na allan nhw mo’u gweld
K17 terminoleg ac arferion gweithredu camerâu dogfennol a drama sengl o ran fframio, onglau camera, saethu am y nôl ac arddulliau saethu
K18 goleuo a ffynonellau golau naturiol neu rai nad ydynt o dan reolaeth yn achos ffilmio mewn arddull ddogfennol
K19 sut i ddefnyddio eich doethineb eich hun yn absenoldeb briff neu wybodaeth arall am y gwaith sydd i’w wneud
K20 sut i aros yn hyblyg pan fydd amodau a gofynion sain yn newid yn gyflym ac yn ddireolaeth
K21 cymarebau agwedd camera, fframio ac arferion siot a sut i osgoi tarfu ar ymylon ffrâm neu amharu ar waith camera


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Sain, Ffilm, Theledu, Gwneud, Ansawadd, Stiwdio, Cynhyrchu, Camcorder, Lleoliad