Rheoli darparu anghenion sain
URN: SKSS02
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
                    Datblygwyd gan: ScreenSkills
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â rheoli darparu gofynion sain fel y nodir hwy yn y cynllun cynhyrchu sain. Mae’n ymwneud ag amcangyfrif anghenion adnoddau, dyrannu gwaith, monitro cynnydd ac adrodd yn ôl i’r penderfynwyr. Mae’n cynnwys gwerthuso effeithlonrwydd cyffredinol a gwneud unrhyw welliannau sydd eu hangen mewn ymateb i newidiadau i’r briff.
Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â rheoli darparu gofynion sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1  adnabod unrhyw oblygiadau iechyd a diogelwch o ran cynlluniau cynhyrchu sain, yn erbyn gofynion iechyd a diogelwch
P2   gwneud asesiadau o faint cynyrchiadau sy’n ddigon cywir i alluogi gwneud amcangyfrifon realistig o anghenion adnoddau
P3    dyrannu gwaith a fydd yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau unigolion er mwyn cwrdd â gofynion cynhyrchu 
P4  defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ddadansoddi effaith newidiadau i friffiau creadigol ar gynlluniau cynhyrchu sain, gan eu newid yn ôl y galw
P5    cofnodi unrhyw newidiadau i gynlluniau cynhyrchu sain mewn fformatau addas
P6   gwneud awgrymiadau realistig o ran gwella defnydd o adnoddau gerbron pobl berthnasol
P7 rhoi gwybod i’r rheiny sy’n cael eu heffeithio ganddynt pan fydd amrywiadau’n digwydd i amcangyfrifon amser gwreiddiol, er mwyn rhoi amser digonol iddynt i addasu’u gwaith i ymgorffori’r newid
P8 casglu gwybodaeth ddibynadwy er mwyn asesu cynnydd yn erbyn cynlluniau cynhyrchu sain
P9    adrodd ar gynnydd yn erbyn cynlluniau cynhyrchu sain ar adegau fel y gofynnir amdanynt gan y penderfynwyr 
P10  awgrymu ffyrdd realistig o oresgyn unrhyw anawsterau a gynigir gan natur ffiniau gweithio gerbron pobl berthnasol
P11   defnyddio gwybodaeth berthnasol i farnu’n gyffredinol  
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1  sut i ddehongli’r briff creadigol a’i oblygiadau technegol
K2   beth yw’r ffiniau gweithio, a ffynonellau gwybodaeth amdanynt
K3    gofynion artistig, technegol, gweithredol a chyllidol y briff creadigol
K4  cynseiliau cwrdd â’r briff, eu nodweddion, manteision ac anfanteision
K5    ble i gael manylion am y cynllun cynhyrchu sain yr ydych chi’n gweithio iddo
K6 gofynion iechyd a diogelwch yn ymwneud â gweithredu cynlluniau cynhyrchu sain
K7    sut i asesu maint y cynhyrchiad ac amcangyfrif gofynion adnoddau’n ddibynadwy ac yn realistig
K8    sut i amcangyfrif faint o amser fydd ei angen i gwblhau tasgau o fewn y cynllun cynhyrchu sain
K9   y math o offer a chyfleusterau fydd eu hangen a’u hargaeledd
K10    sut i ddyrannu gwaith i beri fod sgiliau’n cyd-fynd ag anghenion cynhyrchu
K11  gwybodaeth i’w gasglu er mwyn monitro cynnydd a ffyrdd o gael gafael arni
K12   pwy sydd angen cael gwybod am amrywiadau i amcangyfrifon a chynnwys cynlluniau
K13  sut i farnu effeithiolrwydd cynlluniau cynhyrchu sain, a gwelliannau iddynt
K14 fformatau ar gyfer cofnodi gwybodaeth gynhyrchu  
            Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Creative Skillset
        
    
URN gwreiddiol
        SKSS02
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            Ffilm, Sain, Theledu, Cynlluniau, Briff, Gofynion