Llunio deunydd ysgrifenedig ar gyfer defnydd aml-lwyfan i ategu a hyrwyddo cynnwys radio a sain

URN: SKSRACC9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â llunio deunydd ysgrifenedig i’w ddefnyddio ledled ystod o lwyfannau cyfryngau i ategu, a hyrwyddo cynnwys radio a sain.

Gallai hyn ymdrin ag ysgrifennu cynnwys ar gyfer gwefan neu i’w gyflwyno ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai hefyd olygu ysgrifennu deunydd hyrwyddo ar gyfer cynnwys gorsaf neu raglen, er dibenion marchnata, neu ar gyfer canllawiau rhaglenni a rhestrau.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n ysgrifennu deunydd ar gyfer defnydd aml-lwyfan yn y maes radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ysgrifennu mewn arddull sy’n addas ar gyfer y gynulleidfa darged a diben y cyfathrebu
  2. dilyn yr arferion ysgrifennu, y canllawiau arddull a’r polisïau sefydliadol
  3. strwythuro cynnwys ysgrifenedig fel ei fod yn hawdd i’w ddarllen a’i ddefnyddio
  4. cynhyrchu isdeitlau neu ddisgrifiadau i gyd-fynd gydag asedau gweledol neu glipiau radio, sain a fideo
  5. darparu geiriad eglur ac sy’n hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw hyperddolenni
  6. defnyddio technegau optimeiddio peiriant chwilio yn eich deunydd ysgrifennu
  7. prawfddarllen eich copi a chywiro unrhyw wallau
  8. gwirio bod yr wybodaeth yn y deunydd ysgrifenedig yn gywir
  9. gwirio a chadarnhau bod y deunydd yn hawdd i’w ddefnyddio
  10. gwirio bod cynnwys y deunydd ysgrifenedig yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, rheoliadau’r diwydiant a’r canllawiau sefydliadol
  11. cyflwyno deunydd ysgrifenedig o’r hyd y cytunwyd arno ac yn brydlon
  12. hysbysu cydweithwyr ar unwaith os oes unrhyw anawsterau’n codi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y confensiynau, cyfyngiadau, posibiliadau a’r cyfleoedd caiff eu cyflwyno gan y llwyfan targed ar gyfer cyfathrebu gyda deunydd ysgrifenedig
  2. sut i egluro diben y deunydd ysgrifennu, y llwyfan neu’r llwyfannau i’w ddosbarthu a’r gynulleidfa darged ar gyfer y cynnwys radio neu sain
  3. yr egwyddorion gramadeg, atalnodi a sillafu, a’r adnoddau a’r dulliau ar gyfer gwirio’r rhain
  4. pwysigrwydd iaith, cynnwys ac arddull ysgrifennu amrywiol i ymgysylltu gyda gwahanol gynulleidfaoedd targed
  5. sut i adrodd stori, cyflwyno dadleuon, crynhoi gwybodaeth gymhleth, a chyfathrebu pwyntiau allweddol
  6. y gwahaniaeth rhwng ffeithiau a sylwadau
  7. sut i strwythuro deunydd a chynnwys ysgrifenedig ar gyfer y gynulleidfa darged ac ymhen confensiynau’r cyfrwng cyflwyno
  8. sut i ysgrifennu a strwythuro testun ar gyfer cyfrwng aflinol
  9. pwysigrwydd hygyrchedd a phwy sy’n gyfrifol amdano
  10. sut i gyflawni optimeiddiad peiriant chwilio drwy ddefnyddio geiriau allweddol wrth ddefnyddio deunydd ysgrifenedig ar gyfer llwyfannau ar-lein
  11. a oes asedau eraill ar gael e.e. clipiau gweledol, radio, sain neu fideo i ategu’r deunydd ysgrifenedig
  12. sut i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, rheoliadau’r diwydiant a’r canllawiau sefydliadol
  13. y graddfeydd amser, y terfynau amser a’r cyfanswm testun sydd ei angen ar gyfer defnydd aml-lwyfan

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC11

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

crue; radio; sain; cynnwys; llwyfannau cyfryngau; hyrwyddo; deunydd ysgrifenedig; asedau gweledol; cynulleidfa darged; terfynau amser; defnydd aml-lwyfan;