Gwerthuso syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRACC7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso syniadau a’u hasesu o gymharu â gofynion yr orsaf, cynhyrchiad neu raglen radio.
Mae hefyd yn ymwneud â phennu’r triniaethau priodol ar gyfer y syniadau dewisol.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n gwerthuso syniadau ar
gyfer cynnwys radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso syniadau ar gyfer cynnwys o gymharu â gofynion y cynhyrchiad radio neu sain a’r agweddau llwyddiant sefydledig
- asesu lefelau’r risg creadigol wrth geisio canfod syniadau cynnwys newydd a gwreiddiol
- dewis syniadau cynnwys sydd â’r dichonoldeb mwyaf i fodloni gofynion golygyddol ac artistig y cynhyrchiad
- egluro’r rhesymau dros ddewis a gwrthod syniadau am gynnwys
- cynnig adborth i eraill am addasrwydd ac ansawdd eu syniadau
- cyfiawnhau’r triniaethau sydd wedi’u nodi ar gyfer syniadau cynnwys dewisol o ran gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
- rhoi cyfle i bobl eraill gyfrannu tuag at ddatblygu syniad am gynnwys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion yr orsaf radio, y cynhyrchiad neu’r rhaglen radio neu sain y mae angen asesu unrhyw syniadau am gynnwys yn eu herbyn
- y meini prawf penodol ar gyfer beirniadu a dewis syniadau am gynnwys
- y cynulleidfaoedd arfaethedig a’u priodweddau a hoffterau hysbys
- y ddeddfwriaeth, rheoliadau’r diwydiant a’r canllawiau golygyddol sefydliadol
- y dulliau o gynnig adborth i eraill i gynnal eu cymhelliant
- y gost a’r goblygiadau technegol a logistaidd o roi syniadau cynnwys ar waith ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain
- y cysyniadau o ran ffurf a strwythur sy’n berthnasol i drin syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC9
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwerthuso; syniadau; radio; sain; cynnwys; gofynion y cynhyrchiad; cost; adborth; canllawiau golygyddol;