Gweithio gan gydymffurfio gyda briff ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRACC5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda briff penodol ar gyfer cynnwys radio a sain gofynnol ac mae’n berthnasol i fodloni briff penodol fel aelod o’r tîm cynhyrchu neu gael eich comisiynu fel cynhyrchydd llawrydd neu annibynnol gan gleient.
Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod proses gomisiynu gystadleuol.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n bodloni briff yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu gyda’r person sydd wedi llunio’r briff ar gyfer y cynnwys radio neu sain
- nodi’r amcanion, y gyllideb, y gynulleidfa darged arfaethedig, y graddfeydd amser a’r cyfrwng ar gyfer y gwaith radio neu sain
- cytuno gyda’r bobl berthnasol am yr adnoddau y mae disgwyl i chi weithio gyda nhw
- cytuno ar feysydd cyfrifoldeb gyda’r bobl briodol, gan gadarnhau gofynion y briff
- hysbysu’r person sydd wedi llunio’r briff am y cynnydd ar adegau y cytunwyd arnyn nhw
- cynnig dewisiadau amgen ymarferol gyda’r person sydd wedi llunio’r briff os oes unrhyw broblemau neu rwystrau’n codi
- llunio cynnwys radio neu sain sy’n bodloni’r amcanion ar gyfer y gwaith
- cyflwyno’r cynnwys radio neu sain yn brydlon a gan gadw at y gyllideb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyd-destun ar gyfer y briff: arddull, diwylliant a pholisi golygyddol gorsaf benodol neu gomisiynydd arall
- y genre a’r ffurf ar gyfer y cynnwys radio neu sain sydd wedi’i gomisiynu
- ble i gaffael gwybodaeth ddibynadwy am y briff, yr amcanion, y gyllideb, y gynulleidfa darged, y graddfeydd amser a’r cyfrwng
- sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda golygyddion neu gomisiynwyr neu/a chleientiaid
- y technegau ar gyfer cwestiynu a gwrando a gofyn cwestiynau perthnasol i bennu agweddau sefydlog a thrafodadwy’r briff
- y gwahanol ffyrdd o ymateb er mwyn ymateb i friff ar gyfer cynnwys radio a/neu sain
- sut i ddwyn i ystyriaeth digwyddiadau annisgwyl ac ymateb i amgylchiadau newidiol
- sut i lunio briff a ffurfiau posibl y briff
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Screenskills
URN gwreiddiol
SKSRAC7
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
radio; sain; cynnwys; briff; comisiynu; amcanion; graddfeydd amser; cyllideb;