Cydymffurfio gyda deddfwriaeth a rheoliadau wrth weithio ym myd radio a sain
URN: SKSRACC30
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n llywodraethu darlledu radio a sain yn y DU er mwyn bodloni’r safonau gofynnol o ran ymddygiad moesegol.
Mae hefyd yn ymwneud â gwybod am a pharchu cynnwys codau ymddygiad cyflogwyr a chanllawiau’r rhaglen sydd â’r bwriad o sicrhau neu ragori ar gydymffurfiaeth â’r fframwaith rheoleiddio.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiannau radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y gofynion rheoleiddiol a chodau ymddygiad y diwydiant
- gwirio bod unrhyw gynnwys newyddion ar gyfer radio a sain yn ddiduedd ac yn gywir
- sicrhau caiff unigolion a sefydliadau eu trin yn deg mewn allbynnau radio, sain ac allbynnau perthnasol rydych chi ynghlwm â nhw
- caffael cydsyniad gan gyfranwyr i gynnwys radio, sain a chynnwys perthnasol yn ôl yr angen
- cyfiawnhau cynnwys unrhyw ddeunydd a allai beri tramgwydd o ran ei gyd-destun, fel sydd wedi’i ddiffinio yng nghanllawiau codau darlledu a chynnwys sefydliadol
- ystyried cynnwys cynulleidfaoedd a hygyrchedd pan fyddwch yn creu cynnwys radio a sain
- sicrhau triniaeth gyfartal a defnyddio meini prawf dethol penodol ym mhob math o gystadleuaeth
- ymateb i gwynion rhaglenni yn unol â’r goblygiadau cyfreithiol perthnasol a chod ymddygiad eich sefydliad
- cadw nodiadau o ddeunydd ymchwilio / cyfweld ar gyfer y cyfnod y cytunwyd arno yng nghanllawiau neu godau ymddygiad cyflogwyr
- datgan unrhyw wrthdaro buddiannau arfaethedig o ran y pwnc dan sylw rydych chi’n ymdrin ag o yn unol â’r codau ymddygiad, moeseg a’r canllawiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth gyfredol sy’n berthnasol i’r diwydiant radio a sain
- rôl Ofcom a Chod Darlledu Ofcom ynghlwm â radio a sain
- cynnwys y canllawiau golygyddol sy’n berthnasol i radio a sain megis y BBC
- rôl ‘Broadcast Committee of Advertising Practice (BCAP)’ a Chod Hysbysebu Darlledu’r DU
- rôl y ‘Phone-paid Services Authority (PSA)’ a’i God Ymarfer ar gyfer gwasanaethau ffôn cyfradd premiwm
- codau ymarfer, canllawiau cynnwys a rhaglenni a gweithdrefnau cwynion mewnol eich cyflogwr
- materion cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hygyrchedd mewn perthynas â darlledu
- yr ystyriaethau wrth asesu deunydd ar-lein gan ffynonellau rhyngrwyd sydd heb eu rheoleiddio
- cwmpas hawliau eiddo deallusol a beth sydd wedi’i ddiogelu gan hawlfraint, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chynnwys radio a sain sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr
- hawliau manteisio ar wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’r cyfyngiadau cyfreithiol ar fynediad o’r fath
- peryglon enllib mewn deunydd radio, archif neu ar-lein
- peryglon a manteision recordio deunydd yn ddirybudd gan gynnwys pryd, a phryd i beidio â datgelu eich gweithgaredd recordio
- pryd y caniateir ymyrryd ar breifatrwydd unigolion er budd y cyhoedd neu fudd cenedlaethol
- sut i benderfynu a ddylid cyfweld â phwy ai pheidio, a phryd y mae’n briodol rhoi’r gorau i’r cyfweliad
- pryd y mae’n briodol ceisio arweiniad golygyddol a/neu gyfreithiol
- sut i asesu gwrthdaro buddiannau posibl a pham na ddylech chi ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol rydych chi wedi’i chaffael yn ystod eich gwaith er budd eich buddiannau preifat eich hun neu gymdeithion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRACC30
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
sain; radio; deddfwriaeth; rheoliadau; cydymffurfio; codau ymddygiad; moeseg; canllawiau; gwrthdaro buddiannau; hawlfraint;