Meddwl am a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â meddwl am a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain a rhoi technegau meddwl yn greadigol ac adrodd straeon ar waith, ynghyd â dealltwriaeth o’r cyd-destun neu’r farchnad ar gyfer eich syniadau. Mae’n ymwneud â deall gofynion gorsafoedd radio, cynyrchiadau a rhaglenni a gwahanol genres, yn ogystal â nodi agweddau sydd wedi cyfrannu tuag at lwyddiannau neu fethiannau yn y gorffennol.
Mae’r safon hon yn ymdrin â defnyddio dulliau ymchwil priodol, manteisio ar ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, a chadarnhau bod modd gweithredu cynigion gan gadw at y gyllideb.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n meddwl am ac yn datblygu syniadau yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu gofynion yr orsaf, cynhyrchiad neu’r rhaglen radio, a’r gynulleidfa darged
- meddwl am a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain i fodloni gofynion y cynhyrchiad, ac apelio i’r cynulleidfaoedd targed ledled yr holl lwyfannau perthnasol
- defnyddio dulliau ymchwil i fodloni gofynion y cynhyrchiad sy’n cydymffurfio gyda’r cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol perthnasol
- trafod a gwirio syniadau cychwynnol gyda phobl eraill er mwyn llunio cynigion ar gyfer cynnwys radio a sain
- datblygu syniadau radio a sain manwl i gadarnhau bod modd eu gweithredu gyda’r adnoddau sydd ar gael ac o fewn y raddfa amser
- nodi agweddau pennu ar gyfer llwyddiant neu fethiant cynyrchiadau radio a sain yn y gorffennol
- bwrw golwg ar y ffynonellau hygyrch a’r ffynonellau sydd ar gael i wirio gwreiddioldeb syniadau
- adnabod cyfleoedd ar gyfer delweddu a ffyrdd eraill i ddefnyddio syniad ledled nifer o lwyfannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr orsaf, cynhyrchiad neu’r rhaglen y mae’r cynnwys radio a sain wedi’i greu ar ei gyfer a’i gynulleidfa darged
- priodweddau a hoffterau’r gynulleidfa arfaethedig
- sut i roi technegau meddwl yn greadigol ac adrodd straeon ar waith i feddwl am syniadau ar gyfer cynnwys
- sut i fanteisio ar ffynonellau o syniadau arfaethedig – gan gynnwys profiad personol, ymchwil arbenigol a’r holl ffurfiau o gyfryngau cymdeithasol
- sut i gydweithio gydag eraill a pham mae’n bwysig gwneud hynny
- sut i ddatblygu syniadau cychwynnol i lunio cynigion, y cwestiynau i’w gofyn, ac a oes angen unrhyw wybodaeth bellach
- unrhyw broblemau posibl yn ymwneud â deddfwriaeth, rheoleiddio neu bolisi golygyddol a sut y dylid mynd i’r afael â nhw
- sut i adnabod beth sydd wedi gofalu bod syniadau am gynnwys radio a sain yn y gorffennol wedi bod yn llwyddiannus
- sut i adnabod ffynonellau o wybodaeth arbenigol
- y technegau ar gyfer delweddu radio a sain, a sut mae modd datblygu cynnwys i greu cynnwys ledled ystod o lwyfannau