Cyflwyno cynhyrchiad radio neu sain
URN: SKSRACC26
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno cynyrchiadau radio a sain, megis rhaglenni neu bodlediadau; meithrin credadwyedd a chydberthynas, a drwy gyfathrebu’n gryno, yn wybodus ac yn ddymunol gyda chynulleidfaoedd.
Mae hefyd yn ymwneud â deall amryw rolau cyflwynwyr radio a sain o ran cerddoriaeth, ar lafar, radio a sain.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cyflwyno rhaglen neu bodlediad radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu cyd-destun a diben eich rôl fel cyflwynydd y cynhyrchiad radio neu sain
- meithrin cydberthynas gydag eich cynulleidfa, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennych chi ynghylch eu nodweddion, diddordebau a disgwyliadau
- paratoi, ymchwilio a chyflawni sylwebaeth ar ddigwyddiadau ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain, ei gynulleidfa a’r pwnc dan sylw
- ymgysylltu gyda’r pwnc dan sylw a’r cynnwys radio neu sain mewn ffyrdd sy’n meithrin eich credadwyedd gyda’r gynulleidfa byw neu sy’n gwrando
- defnyddio stiwdios, cyfarpar recordio a chyfarpar technegol eraill yn unol â’r cyfarwyddiadau gan wneuthurwyr a chydweithwyr technegol yn ôl yr angen
- gweithio gan fodloni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain, a dilyn y broses gynhyrchu, gan gynnwys amseriadau
- cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymddygiad sefydliadol perthnasol
- sicrhau bod eich cyflwyniad a’ch gwedd bersonol yn gweddu i’r achlysur a’r lleoliad pan fyddwch chi’n gweithio gyda chynulleidfaoedd wyneb yn wyneb
- adolygu adborth gwrandawyr / cynulleidfaoedd a chyfrannu tuag at unrhyw ymatebion yn unol â’r gofynion sefydliadol ar gyfer y cynhyrchiad
- gwrando ar yr allbwn ac adolygu eich perfformiad chi yn barhaus
- ceisio a derbyn adborth am eich perfformiad gan eich rheolwr neu eich cydweithwyr cynhyrchu’n barhaus
- adnabod cyfleoedd i ddatblygu a gwella eich perfformiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr amrywiaeth o arddulliau gorsafoedd, genres a ffurfiau rhaglenni a phodlediadau yn y maes radio a sain, a’r gwahanol rolau cyflwyno maen nhw’n gofyn amdanyn nhw
- y disgyblaethau cyflwyno sy’n berthnasol i’r gwahanol genres gan gynnwys cerddoriaeth, newyddion neu raglenni dogfen
- y ffynonellau gwybodaeth am y gynulleidfa, yn enwedig y rheiny sy’n benodol i bob cynulleidfa / gwrandawyr targed
- sut i ddatblygu arddull cyflwyno dilys sy’n briodol i bob cynulleidfa / gwrandawyr targed
- sut i addasu’ch arddull yn dibynnu ar y pwnc dan sylw a ffurf y cynhyrchiad
- pwysigrwydd defnyddio iaith briodol gan ddeall ethnigrwydd, rhyw, oedran a thuedd rhywiol
- y grym a’r dylanwad gallai gyflwynwyr ei gael ar gynulleidfaoedd / gwrandawyr a chyfrifoldebau’r cyflwynwyr i reoli’r rhain
- y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymddygiad sefydliadol sy’n berthnasol, a’ch cyfrifoldebau penodol fel cyflwynydd
- y broses dechnegol o recordio sain a nodweddion arwyddocaol amrywiaeth o wahanol gyfarpar recordio a golygu
- sut i ddefnyddio stiwdios, cyfarpar recordio a chyfarpar eraill yn unol â’r cyfarwyddiadau gan wneuthurwyr a chydweithwyr technegol
- sut i asesu eich perfformiad chi o gymharu â meini prawf y cynhyrchiad radio neu sain a dysgu o brofiad a chamgymeriadau
- pwysigrwydd adolygu eich perfformiad yn barhaus er mwyn datblygu eich sgiliau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSC29
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
sain; radio; cyflwyno; cynhyrchiad; cyflwynydd; perfformiad; cynulleidfa; cydberthynas; podlediad; stiwdio; cyfarpar technegol;