Gwerthuso llwyddiant cynyrchiadau radio a sain

URN: SKSRACC24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso llwyddiant cynyrchiadau radio a sain, cyfrannu tuag at adolygiadau cynhyrchu a chynnig a derbyn adborth adeiladol.

Mae gofyn i chi egluro’r meini prawf ar gyfer llwyddiant y byddwch chi’n beirniadu’r cynhyrchiad radio neu sain yn ei erbyn, a dysgu o’r broses adolygu.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n gwerthuso llwyddiant cynyrchiadau radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso cynyrchiadau radio neu sain yn erbyn y meini prawf y cytunwyd arno
  2. gwirio bod y rhesymau dros eich gwerthusiadau’n eglur ac mae modd eu cyfiawnhau
  3. defnyddio data meintiol ac ansoddol i gynorthwyo yn y broses adolygu
  4. annog adolygiadau didwyll ac agored o gynyrchiadau radio neu sain a chyfrannu tuag atyn nhw
  5. adrodd yn ôl i bobl eraill am eu cyfraniad
  6. pennu a chymryd rhan mewn prosesau adolygu ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain, gan ddarparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio ar gyfer gwella yn y dyfodol
  7. llunio adroddiad gwerthuso gan gynnwys argymhellion ar gyfer gwella

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gynulleidfa neu’r gofynion cynhyrchu y mae angen asesu unrhyw ddeunydd radio neu sain yn eu herbyn
  2. sut i lunio meini prawf ar gyfer beirniadu llwyddiant cynyrchiadau radio neu sain
  3. dulliau o ddarparu adborth a sut i gynnig adborth adeiladol
  4. sut i nodi data meintiol perthnasol ar gynulleidfaoedd, marchnata a gwerthiannau   
  5. ffynonellau o adborth ansoddol gan gynulleidfaoedd, hysbysebwyr neu randdeiliaid allweddol eraill sy’n berthnasol i’r cynhyrchiad radio neu sain
  6. sut i gasglu a rhannu gwybodaeth sydd wedi’i chaffael o adolygiadau cynyrchiadau radio neu sain
  7. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y safonau darlledu cyfredol a chodau ymarfer y diwydiant 
  8. sut i roi gwersi sydd wedi’u dysgu ar waith mewn cynyrchiadau yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC27

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sain; radio; llwyddiant; gwerthuso; cynyrchiadau; gofynion y cynhyrchiad; cynulleidfa; llwyddiant; meini prawf y cytunwyd arno; deddfwriaeth; safonau darlledu;