Cynhyrchu darllediadau radio a sain yn yr awyr agored

URN: SKSRACC22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon ymwneud â chynhyrchu darllediadau radio neu sain yn yr awyr agored. Mae hefyd yn ymwneud â phennu beth sydd ei angen i nodi, dewis a pharatoi lleoliadau i’w defnyddio ar gyfer darllediadau yn yr awyr agored.

Mae’n ymdrin hefyd â chyfarwyddo a monitro darllediadau gan ddefnyddio gwahanol systemau cyfathrebu, monitro ansawdd allbwn darlledu, a sicrhau caiff y cyfarpar ei ddefnyddio’n ddiogel. 
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cynhyrchu darllediadau radio neu sain yn yr awyr agored.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydlynu’r paratoadau ar gyfer darllediadau yn yr awyr agored yn unol â gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
  2. rhannu manylion y lleoliadau sydd i’w defnyddio gyda’r bobl berthnasol
  3. cadarnhau bod yr holl drefniadau ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain yn bodloni’r gofynion yswiriant a’r rheoliadau iechyd a diogelwch
  4. gwirio a chadarnhau bod y cyfathrebu gyda stiwdios sefydlog yn weithredol ac yn eglur
  5. gwirio a chadarnhau bod y cyfranwyr ar gael ar yr amser ac yn y lleoliad sydd ei angen
  6. gwirio a chadarnhau bod y trefniadau wrth gefn yn ymdrin ag anawsterau o ran ymgysylltu gyda phobl i gymryd rhan yn ystod rhaglenni
  7. cadarnhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn deall y gweithdrefnau i’w dilyn os bydd cylched yn methu
  8. gwirio a chadarnhau bod trefniadau ar waith i ofalu am ddiogelwch personél y cynhyrchiad a’r cyhoedd
  9. sicrhau bod yr arwyddion a’r hysbysiadau sy’n egluro ac yn pennu’r gofynion a’r cyfyngiadau mynediad wedi’u gosod mewn lle priodol i dynnu sylw pobl
  10. cadw cofnodion o awdurdodiadau, gofynion a chyfyngiadau mynediad, a symudiadau pobl ar y safle
  11. dewis cynnwys sydd fwyaf tebygol o fodloni gofynion y cynyrchiadau radio neu sain
  12. strwythuro cynnwys i gael yr effaith fwyaf ar y gynulleidfa a rhoi’r syniad cynhyrchu ar waith
  13. cynnig gwybodaeth eglur a chryno i gyfranwyr am eu rolau a’u cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad radio neu sain
  14. asesu cryfderau a gwendidau’r cyfranwyr
  15. gwirio caiff cymorth ei gynnig mewn ffordd sensitif a chwrtais i gyfranwyr pan fo’i angen
  16. egluro newidiadau i drefn cynnal, amser a chynnwys y cynhyrchiad, mewn da bryd er mwyn i unigolion allu addasu i’r newidiadau
  17. cyflwyno goleunodau sy’n eglur, pendant ac ar amser
  18. cytuno ar y manylion trosglwyddo rhwng stiwdios sefydlog a chyflwynwyr ymlaen llaw
  19. monitro ansawdd technegol yr allbwn radio neu sain yn barhaus, gan nodi ac adrodd am unrhyw golled o ran ansawdd
  20. sicrhau caiff y defnydd o unrhyw ddeunydd cerddoriaeth neu hawlfraint ei gofnodi yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cynnwys a strwythur pob cynhyrchiad radio neu sain, gan gynnwys ei ddiben a’i ddeilliannau arfaethedig
  2. cynllun a gofynion yswiriant y cynhyrchiad
  3. nodweddion y lleoliadau sydd i’w defnyddio a sut i asesu eu dichonoldeb
  4. gofynion ac amserlenni darlledu neu ddosbarthiad arall
  5. pa gysylltiadau stiwdio sydd eu hangen i’r darllediad yn yr awyr agored
  6. y cyfleusterau wrth gefn sydd ar gael
  7. y tywydd tebygol a’r amodau eraill a allai effeithio ar ddiogelwch, a’r angen am drefniadau wrth gefn
  8. y gofynion cyfreithiol a’r ystyriaethau moesegol sy’n effeithio ar y defnydd o wybodaeth mewn cynyrchiadau a rhaglenni radio neu sain
  9. y gweithdrefnau ar gyfer cysylltu ynghylch mynediad gyda’r heddlu, cwmnïau diogelwch preifat ac asiantau eraill
  10. y gweithdrefnau a’r systemau ar gyfer awdurdodi mynediad i safleoedd darlledu yn yr awyr agored
  11. rôl arfaethedig pob cyfrannwr
  12. dyddiad, amser a lleoliad y bydd pob cyfrannwr yn cymryd rhan
  13. cynnwys y drefn cynnal: goleunodau, cysylltiadau ac amseriadau cysylltiedig
  14. y cyfathrebu sydd eu hangen gyda stiwdios sefydlog
  15. y rheoliadau a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r darllediad yn yr awyr agored
  16. y trwyddedau, y cysyniadau a’r caniatâd sydd ei hangen gan gynnwys y defnydd o gerddoriaeth a deunydd hawlfraint

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC25

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC

3

Geiriau Allweddol

sain; radio; darllediad yn yr awyr agored; cynhyrchiad; gofynion; cyfranwyr; ansawdd technegol; trwyddedau; cydsyniadau; caniatâd;