Creu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
URN: SKSRACC20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chreu cynnwys aml-gyfrwng i’w ddefnyddio ledled nifer o lwyfannau a gwasanaethau dosbarthu a briffio eraill i wneud hynny.
Mae’n ymwneud â dylunio a chreu cynnwys, cyfuno testun a sain gydag asedau digidol eraill megis fideo i ymgysylltu cynulleidfaoedd ledled yr holl lwyfannau a dyfeisiau; gan ategu, cefnogi a hyrwyddo cynnwys radio a sain.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cynhyrchu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r mathau o lwyfannau a dyfeisiau ar gyfer cyflwyno cynnwys aml-gyfrwng a’u pwysigrwydd cymharol o wybodaeth cynhyrchu radio neu sain
- nodi nodweddion, ymddygiad a disgwyliadau cynulleidfaoedd targed o wybodaeth cynhyrchu radio neu sain
- pennu adnoddau i gynnal a chadw’r cynnwys aml-gyfrwng drwy gydol ei gyfnod
- gweithio gan gydymffurfio â’r cyllidebau a’r graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw
- darparu cynnwys ar gyfer defnydd ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a defnyddiau eraill mewn ffurf sy’n hawdd ei ddeall i ddiwallu anghenion y cynulleidfaoedd targed
- defnyddio meddalwedd i baratoi cynnwys radio neu sain at ddefnyddiau ar-lein a llwyfannau cyfryngau eraill
- uwch lwytho cynnwys radio neu sain a sicrhau ei fod ar gael i’r bobl berthnasol
- caffael, dewis neu gomisiynu deunydd gweledol perthnasol i ategu cynnwys ar-lein
- paratoi delweddau a fideos gweledol fel eu bod yn barod i’w defnyddio ar-lein
- monitro gwaith pobl eraill i sicrhau bod unrhyw gynnwys aml-gyfrwng sydd wedi’i gynhyrchu yn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- sicrhau caiff y defnydd o unrhyw ddeunydd cerddoriaeth neu hawlfraint ei gofnodi yn unol â’r gofynion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dechnoleg berthnasol sydd ar gael, ei ddefnyddiau ymarferol a’r dichonoldeb creadigol
- cyd-destun a diben cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer defnydd aml-lwyfan
- sut i wirio a gwerthuso gwahanol gynulleidfaoedd ar gyfer cynnwys aml-gyfrwng, a’u disgwyliadau
- sut i ysgrifennu cynnwys ar gyfer defnydd ar-lein
- sut i ddefnyddio meddalwedd amgodio sain, ac uwch lwytho cynnwys radio neu sain
- y technegau ar gyfer delweddu radio a sain a’r asedau ychwanegol a allai ffurfio rhan o’r cynnwys gan gynnwys clipiau fideo neu ddelweddau i ategu sain a thestun
- sut i ddod o hyd i gynnwys; a ddylid addasu cynnwys presennol neu greu deunydd o’r newydd
- pa drwyddedau, cydsyniadau a chaniatâd sydd eu hangen, a sut i’w caffael
- y gofynion adrodd ar gyfer y defnydd o ddeunydd cerddoriaeth a hawlfraint
- y mathau o ddeunydd gweledol ategol gan gynnwys ffotograffau, graffeg a fideo
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC23
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
radio; sain; aml-gyfrwng; cynhyrchiad; cynnwys; llwyfannau; sianeli;