Cynhyrchu cynnwys cerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau radio a sain

URN: SKSRACC19
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu pob mathau o gynnwys cerddoriaeth ar gyfer radio a sain.

Mae hefyd yn ymwneud â phenderfynu pa gerddoriaeth sydd ei hangen ar gyfer gwahanol fathau o orsaf, rhaglen, neu gynhyrchiad; ei ganfod, a’i gaffael.
Mae hefyd yn ymdrin â chydosod cynnwys cerddoriaeth yn ei drefn gynhyrchu.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys cerddoriaeth o wybodaeth y cynhyrchiad
  2. nodi a manteisio ar ffynonellau perthnasol ar gyfer y cynnwys cerddoriaeth sydd ei angen
  3. gwirio a chadarnhau gyda chyflenwyr o ran a yw’r cynnwys cerddoriaeth ofynnol ar gael
  4. nodi cynnwys cerddoriaeth amgen sy’n cyflawni’r un diben a safonau pan nad yw’r ffynonellau a gafodd eu nodi’n wreiddiol ar gael
  5. pennu’r angen am unrhyw drwyddedau, cydsyniadau, caniatâd a ffioedd perfformiad sydd eu hangen
  6. cadarnhau bod y trefniadau i gaffael trwyddedau, cydsyniadau a chaniatâd wedi’u caffael ar gyfer y cynhyrchiad
  7. gwirio’r cynnwys cerddoriaeth pan gaiff ei gyflwyno a chadarnhau ei fod yn bodloni’r safonau a’r gofynion
  8. nodi gofynion y ffurfiau, a dyfeisio categorïau a chlociau cerddoriaeth addas i’w mewnbynnu i systemau amserlennu safonol
  9. cydosod y cynnwys cerddoriaeth wedi’i recordio yn ei drefn cynnal a chadarnhau ei fod yn barod i’w ddarlledu
  10. cadarnhau bod y gerddoriaeth yn bodloni’r gofynion o ran cynnwys a hyd
  11. perfformio gwiriadau dilys i gadarnhau bod y gerddoriaeth yn bodloni’r safonau gofynnol a’i bod o ansawdd cyson
  12. gwrthod cerddoriaeth sydd ddim yn bodloni’r gofynion neu’r safonau, ac nad oes modd ei addasu
  13. gwirio bod costau’r cynnwys o fewn y cyllidebau sydd ar gael
  14. cyflawni camau gweithredu prydlon i unioni unrhyw orwariant yn y gyllideb
  15. cadarnhau bod y defnydd o ddeunydd a allai fod yn sensitif neu’n ddadleuol o fewn y polisi golygyddol a’r safonau darlledu
  16. cadarnhau bod y drefn cynnal derfynol yn cynnig y dichonoldeb gorau ar gyfer bodloni gofynion y cynhyrchiad
  17. annog cydweithwyr i werthuso, a chynnig adborth ar, y cynnwys a ddewiswyd
  18. sicrhau bod y cofnodion o ran manylion a hyd y gerddoriaeth wedi’u cadw er dibenion clirio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben a gofynion pob cynhyrchiad
  2. nodweddion y cynulleidfaoedd targed
  3. ffurfiau’r cynnwys cerddoriaeth sydd ei angen
  4. y cyllidebau sydd ar gael ar gyfer cynnwys cerddoriaeth
  5. ffynonellau o gynnwys cerddoriaeth, a sut i fanteisio arnyn nhw
  6. sut i ganfod dewisiadau amgen os nad yw’r gerddoriaeth a nodwyd yn wreiddiol ar gael
  7. pa drwyddedau, cydsyniadau a chaniatâd sydd eu hangen, a sut i’w caffael
  8. ansawdd a chysondeb y gerddoriaeth sydd wedi’i chaffael
  9. nodweddion systemau amserlennu cerddoriaeth â llaw neu safonol, ac egwyddorion rheoli ffeiliau, gwerthuso tracio, ac amserlennu
  10. y gwahaniaethau rhwng rhaglennu byw, wedi’i recordio ymlaen llaw neu awtomataidd a’u goblygiadau
  11. polisi golygyddol yr orsaf radio, y darlledwr, comisiynydd arall neu gynhyrchydd y cynnwys a sut mae hyn yn berthnasol i’ch cynhyrchiad chi
  12. y ddeddfwriaeth, rheoliadau, y safonau darlledu cyfredol a chodau ymarfer y diwydiant

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC22

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

radio; sain; cerddoriaeth; cynnwys; cynhyrchiad; trwyddedau; cydsyniadau; caniatâd;