Cynhyrchu cynnwys llafar ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
URN: SKSRACC18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phenderfynu pa gynnwys llafar sydd ei angen i fodloni gofynion y cynhyrchiad, a briffio eraill i gaffael y cynnwys, naill ai drwy gynhyrchu’r cynnwys neu fanteisio ar ddeunydd sy’n bodoli eisoes.
Mae’n ymdrin â llunio trefn cynnal rhaglenni neu lunio rhaglen o’r cynnwys llafar hwn.
Mae hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth o ddichonoldeb rhyngweithiol cynnwys llafar yn y meysydd radio a sain.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cynhyrchu cynnwys llafar ar gyfer cynyrchiadau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi diben bwriadedig cynyrchiadau radio a sain gan ffynonellau dibynadwy
- nodi’r math a ffurf o gynnwys llafar sydd ei angen i fodloni gofynion y cynyrchiadau radio a sain a chynnwys y gellir ei ailddefnyddio o bosibl
- dewis opsiynau ar gyfer y cynnwys llafar a’i driniaeth i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cadarnhau a oes cynnwys llafar presennol ar gael sy’n cyfateb i’r opsiynau a ddewiswyd
- nodi’r angen am gynnwys llafar gwreiddiol sydd ei angen i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- egluro’r gofyniad am gynnwys llafar i gydweithwyr cynhyrchu perthnasol neu gyflenwyr eraill
- nodi cynnwys amgen sy’n cyflawni’r un allbwn â’r dewis gwreiddiol pan nad oes modd caffael y dewis gwreiddiol
- gwneud trefniadau ar gyfer caffael yr holl gydsyniadau a chaniatâd gofynnol
- gwirio’r cynnwys llafar pan gaiff ei gyflwyno a chadarnhau ei fod yn bodloni’r safonau cyfreithiol a darlledu, a gofynion y cynhyrchiad
- gwrthod deunydd sy’n methu â bodloni’r gofynion neu’r safonau, ac nad oes modd ei addasu
- gwirio bod costau’r cynnwys llafar o fewn y cyllidebau sydd ar gael
- gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw orwariant yn y cyllidebau
- cadarnhau bod y defnydd o unrhyw ddeunydd a allai bod yn sensitif neu’n ddadleuol yn cydymffurfio â’r polisi golygyddol, y safonau darlledu a’r cyfyngiadau cyfreithiol
- trefnu cynnwys llafar fel ei fod yn y drefn cynnal derfynol, a sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y cynyrchiadau radio a sain
- cadarnhau bod y drefn cynnal derfynol yn bodloni gofynion y cynyrchiadau radio a sain
- annog cydweithwyr i werthuso, a chynnig adborth ar, y cynnwys llafar a ddewiswyd
- sicrhau caiff y defnydd o unrhyw ddeunydd cerddoriaeth neu hawlfraint ei gofnodi’n gywir
- sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw gytundebau cytundebol, yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- cwblhau’r gwaith i gynnal a chadw amserlenni’r cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben a gofynion pob cynhyrchiad radio a sain, a nodweddion cynulleidfaoedd targed
- ffurf y cynnwys llafar sydd ei angen gan gynnwys hyd ac amserlen
- y cyfleoedd creadigol a thechnegol ar gyfer creu mwy o gynnwys rhyngweithiol
- y cyllidebau sydd ar gael ar gyfer cynnwys llafar
- y ffynonellau o gynnwys llafar a sut i fanteisio arnyn nhw
- addasrwydd y cynnwys llafar sydd wedi’i gynhyrchu, a sut i gaffael cynnwys amgen os nad ydy hyn yn bodloni anghenion y cynyrchiadau radio a sain
- pa drwyddedau, cydsyniadau a chaniatâd sydd ei angen, a sut i’w caffael
- y gofynion adrodd ar gyfer y defnydd o ddeunydd cerddoriaeth a hawlfraint
- polisi golygyddol yr orsaf radio, y darlledwr, comisiynydd arall neu gynhyrchwr y cynnwys ar gyfer y cynyrchiadau radio a sain
- sut i drefnu cynnwys llafar ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
- unrhyw gytundebau cytundebol sydd mewn lle fel rhan o ofynion y cynhyrchiad
- rheoliadau’r ddeddfwriaeth, y safonau darlledu cyfredol a chodau ymarfer y diwydiant
- sut i werthuso’r cynnwys llafar a phwy ddylai fod ynghlwm â’r broses
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC21
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Parc, Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
radio; sain; cynnwys; llafar; cynhyrchiad; cydsyniadau a chaniatâd; cyllidebau; adborth;