Dewis a monitro eraill i greu cynnwys ar gyfer cynyrchiadau radio a sain

URN: SKSRACC17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis a monitro pobl eraill sy’n creu cynnwys radio a sain. Mae’n ymdrin â chyfarwyddo gwaith timau cynhyrchu a thechnegwyr stiwdio ynghyd â chomisiynu gwaith gan weithwyr llawrydd a chynhyrchwyr annibynnol.

Mae hefyd yn ymwneud â chynnig briff eglur i’r rheiny sy’n gyfrifol am greu cynnwys, cydweithio gyda nhw a chynnig cyngor fel sy’n briodol.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n dewis ac yn cyfarwyddo eraill i greu cynnwys radio neu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis crewyr cynnwys sy’n bodloni’r fanyleb cynhyrchu cynnwys radio neu sain
  2. cynnig briff i grewyr cynnwys eraill ynghylch canfyddiadau ymchwil a’r driniaeth y cytunwyd arni ar gyfer y cynnwys
  3. briffio’r crewyr cynnwys ynghylch unrhyw ofynion cyfreithiol ac ystyriaethau moesegol ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain
  4. cynnig gwybodaeth a chyngor i’r crewyr cynnwys er mwyn iddyn nhw gyflwyno’r cynnwys ymhen y terfynau amser y cytunwyd arnyn nhw 
  5. sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael
  6. hwyluso cymryd risgiau creadigol i wella ansawdd y cynnwys radio a sain
  7. awgrymu dewisiadau amgen pan fo anghytundeb ynghylch triniaeth neu ffurf greadigol y cynnwys
  8. monitro cynnydd ac adnabod unrhyw angen am ymyrraeth a chymorth
  9. nodi a chytuno ar ddiwygiadau pan fo ymchwil yn dangos datblygiadau newydd sy’n effeithio ar y syniadau gwreiddiol
  10. cadarnhau unrhyw newidiadau o ran dulliau neu ddatblygiadau gyda’ch cydweithwyr cynhyrchu
  11. cynnig adborth adeiladol am y gwaith sydd ar y gweill yn ôl yr angen
  12. egluro a datrys anghytundebau ynghylch yr angen am ddiwygiadau neu welliannau i gynhyrchu deunydd radio neu sain addas ymhen terfynau amser y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y meini prawf ar gyfer dewis pobl i greu cynnwys radio a sain penodol
  2. y trefniadau cytundebol ar gyfer gweithwyr llawrydd neu gynhyrchwyr annibynnol – gan gynnwys y materion hawlfraint a hawliau eiddo deallusol
  3. gofynion y crewyr cynnwys, gan ddwyn i ystyriaeth paramedrau’r cynhyrchiad
  4. pa wybodaeth a chyngor i’w gynnig i grewyr cynnwys i sicrhau caiff y cynnwys ei gwblhau yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  5. y dulliau o fonitro datblygu cynnwys i sicrhau ei fod yn bodloni’r briff
  6. sut i sicrhau caiff yr angen am unrhyw welliannau neu ymyrraeth ei nodi’n brydlon
  7. sut i gynnig adborth adeiladol
  8. sut i gydbwyso risg creadigol gyda’r cyfyngiadau amser a’r gyllideb 
  9. y materion cyfreithiol neu foesegol sy’n ymwneud â’r pwnc neu driniaeth a sut i gymryd camau gweithredu priodol i osgoi problemau gyda nhw  
  10. sut i weithredu adolygiadau a diwygiadau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC19

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Llysoedd, Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

radio; sain; cynnwys; briff; comisiynu; amcanion; graddfeydd amser; cyllideb;