Dewis a briffio cyfranwyr radio a sain
URN: SKSRACC16
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis a briffio unrhyw un y mae gofyn iddyn nhw gyfrannu tuag at gynhyrchiad radio a sain, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd, gwesteion enwog, cyfranwyr arbenigol, gwesteion, actorion neu gerddorion.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n dewis ac yn briffio cyfranwyr radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth i asesu nifer a natur y cyfranwyr sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiad radio neu sain
- llunio manylebau o’r mathau o gyfranwyr sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiad radio neu sain
- nodi a manteisio ar ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy am gyfranwyr arfaethedig
- nodi cyfranwyr arfaethedig y mae eu nodweddion yn cyfateb i’r fanyleb a chadarnhau eich penderfyniad gyda’ch cydweithwyr
- rhoi gwybodaeth i gyfranwyr am natur y rôl, ac unrhyw ofynion arbennig
- asesu cyfranwyr arfaethedig o gymharu â’r meini prawf dethol, gan bennu eu profiad personol neu broffesiynol perthnasol, eu cymhwysedd, cymwysterau ac unrhyw drwydded sydd ei hangen i ymarfer
- dewis cyfranwyr sy’n cynnig y gallu gorau i fodloni gofynion y cynhyrchiad radio a sain, gan gytuno ar ddewisiadau amgen addas pan fo’n briodol
- briffio’r cyfranwyr gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw am y cyfraniadau a ddisgwylir ganddyn nhw, eu rôl yn y cynhyrchiad radio neu sain a rolau pobl eraill sy’n cymryd rhan
- cynnig cymorth sensitif a chwrtais i gyfranwyr pan fo’i angen
- hysbysu’r cyfranwyr o unrhyw arferion stiwdio neu leoliad perthnasol pan maen nhw’n cyrraedd, gan gynnwys trefniadau iechyd a diogelwch lleol
- sicrhau caiff y cyfranwyr eu tywys o’r stiwdio neu’r lleoliad pan fyddan nhw wedi cwblhau eu perfformiad
- cwblhau ffurflenni caniatâd yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffynonellau’r cyfranwyr perthnasol, a sut i fanteisio arnyn nhw
- y goblygiadau cyfreithiol, cytundebol, moesegol, ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd ynghlwm â defnyddio cyfranwyr
- pwysigrwydd nodi goblygiadau cytundebol a chysylltiedig o ddefnyddio cyfranwyr
- pam mae hi’n bwysig cadw cofnodion a nodiadau manwl gywir
- diben a strwythur pob cynhyrchiad, rhaglen neu eitem radio neu sain a beth sy’n ofynnol gan unrhyw gyfranwyr
- y meini prawf dethol o ran cyfranwyr ar gyfer pob cynhyrchiad radio neu sain a sut i bennu os caiff y meini prawf hyn eu bodloni
- graddau gwybodaeth a phrofiad cyfranwyr unigol o gymryd rhan mewn cynyrchiadau radio a sain, ac o arferion cynhyrchu
- y gwahanol broblemau sy’n codi pan fo cyfranwyr mewn lleoliad anghysbell yn hytrach nag yn bresennol mewn stiwdio, wyneb yn wyneb gyda chyflwynydd neu gyfranwyr eraill
- sut i gynnig cymorth i a diogelu cyfranwyr
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r lleoliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC18
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
radio; sain; cyfranwyr; stiwdio; lleoliad; gwesteion enwog; cyfranwyr arbenigol; gwesteion; actorion; cerddorion;