Dewis a chyfarwyddo cerddorion sy’n perfformio ar gyfer cynyrchiadau radio a sain

URN: SKSRACC15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis a chyfarwyddo cerddorion sydd â’r gallu i fodloni gofynion cynhyrchiad radio a sain, a chyfarwyddo eu perfformiad.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n dewis ac yn cyfarwyddo cerddorion sy’n perfformio ar gyfer cynyrchiadau radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r mathau o gerddorion a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y cynhyrchiad
  2. pennu’r meini prawf dethol ar gyfer y perfformiad mewn ymgynghoriad â chydweithwyr
  3. adnabod a manteisio ar ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy am gerddorion
  4. gwahodd cerddorion dethol i glyweliad a’u hysbysu am natur eu cyfraniad yn ogystal ag unrhyw ofynion arbennig
  5. nodi cymhwysedd, profiad, cymwysterau darpar gerddorion ac unrhyw drwydded ofynnol i ymarfer
  6. nodi a oes darpar gerddorion ar gael a’r costau o gymharu â’r gofynion
  7. dewis cerddorion sydd ar gael ymhen fframiau amser y cynhyrchiad ac sy’n bodloni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
  8. cynnig gwybodaeth i’r cerddorion dethol am eu cyfraniad a’u cyfrifoldebau disgwyliedig
  9. canfod datrysiadau a hysbysu aelodau’r tîm cynhyrchu am unrhyw addasiadau pan fo cerddorion yn anghytuno gyda natur ac amseriad eu mewnbwn
  10. rhoi cyfarwyddyd eglur a manwl gywir i gerddorion ynghylch y deilliannau a fwriedir a strwythur pob cynhyrchiad radio neu sain
  11. cynnig adborth adeiladol a thrin a thrafod unrhyw newidiadau angenrheidiol o ran agweddau’r perfformiad
  12. nodi’r gofynion technegol ar gyfer setiau byw, gan gysylltu gydag aelodau priodol o’r tîm technegol i gadarnhau’r gofynion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a dewis cerddorion sydd â’r gallu i fodloni gwahanol ofynion cynhyrchu radio a sain
  2. sut i fanteisio ar ffynonellau gwybodaeth am gerddorion
  3. pryd a sut i gysylltu gyda cherddorion a’u hasiantiaid
  4. y trefniadau a’r gweithdrefnau cytundebol, a’r cyllidebau sydd ar gael
  5. y gofynion a’r goblygiadau cyfreithiol a moesegol sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu cerddorion
  6. y genres cerddoriaeth a sut i ddarllen a dehongli sgôr cerddorol
  7. pwy ddylid eu hysbysu am unrhyw newidiadau i natur ac amseriad cyfraniadau’r cerddorion y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain
  8. sut i feirniadu perfformiad cerddorol ac adnabod cryfderau a gwendidau cerddorion
  9. sut i gynnig beirniadaethau gwybodus o berfformiadau cerddorol
  10. sut i ymdrin yn effeithiol gyda cherddorion sydd â gwahanol gymeriad a morâl
  11. natur a graddau’r cymorth a allai fod yn briodol i wahanol bobl, a’r ffordd orau o gynnig hyn
  12. sut i nodi, trin a thrafod a datrys gwrthdaro creadigol
  13. agweddau perthnasol Rheoliadau’r Undeb Cerddorion a sut i gydymffurfio gyda nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC17

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

radio; sain; cynhyrchiad; cerddoriaeth; dewis; cyfarwyddo; gofynion; sgôr cerddorol; adborth;