Dewis a chyfarwyddo cyflwynwyr radio a sain, perfformwyr ac artistiaid trosleisio
URN: SKSRACC14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis a chyfarwyddo cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio ar gyfer amrywiaeth o rolau fel sy’n ofynnol ar gyfer cynyrchiadau radio a sain.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n dewis ac yn cyfarwyddo cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio ar gyfer radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu’r fanyleb ar gyfer y gofynion cyflwyno
- cadarnhau a gweithio gan gydymffurfio â’r paramedrau cyllidebol a chytundebol
- adnabod a manteisio ar ffynonellau gwybodaeth am gyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio arfaethedig
- adnabod a dewis cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio y mae eu nodweddion yn cyfateb i’r fanyleb ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain
- pennu a oes cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio ar gael
- dewis cyflwynwyr, artistiaid trosleisio neu berfformwyr sy’n dangos y mwyaf o ddichonoldeb ar gyfer bodloni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
- sicrhau bod y bobl berthnasol wedi’u hysbysu o’r dewis o artistiaid trosleisio, cyflwynwyr neu berfformwyr
- briffio’r artistiaid trosleisio, y cyflwynwyr neu’r perfformwyr gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw cyn recordio
- cyfarwyddo artistiaid trosleisio, cyflwynwyr neu berfformwyr yn ystod recordio i gyflawni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
- cynnig adborth eglur a manwl gywir i gyflwynwyr, perfformwyr ac artistiaid trosleisio pan fyddan nhw wedi cwblhau pob perfformiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cynhyrchiad ar gyfer defnyddio cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio mewn cynyrchiadau radio neu sain
- y ffynonellau gwybodaeth am gyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio, a sut i fanteisio arnyn nhw
- sut i gysylltu gyda chyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio a’u hasiantiaid
- y paramedrau cyllidebol a chytundebol
- y gofynion cyfreithiol a moesegol sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu artistiaid trosleisio, cyflwynwyr a pherfformwyr
- sut i gynnig adborth adeiladol ac annog y bobl dan sylw i wella’u perfformiad
- sut i ymdrin yn effeithiol gyda chyflwynwyr, perfformwyr ac artistiaid trosleisio sydd â chymeriad a morâl gwahanol
- natur a graddau’r cymorth a allai fod yn briodol i wahanol bobl a’r ffordd orau o gynnig hyn
- sut i adnabod, trin a thrafod a datrys gwrthdaro creadigol
- y gwahaniaeth rhwng cyfarwyddo cyflwynwyr, perfformwyr ac artistiaid trosleisio, wyneb yn wyneb ac o bell
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC16
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
radio; sain; cynnwys; llais; cyfarwyddo; cyflwyno; cyflwynydd; perfformiwr; adborth;