Golygu a chymysgu cynnwys sain
URN: SKSRACC13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â golygu sain, deall y cyd-destun golygyddol ac artistig a’r ystyriaethau technegol.
Mae hefyd yn ymwneud â chreu cymysgedd sain sy’n cyflawni’r effaith artistig gofynnol, ac yn cynnig datrysiadau ymarferol os oes yna unrhyw broblemau.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n golygu ac yn cymysgu cynnwys sain ar gyfer y radio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis clipiau a strwythuro sain i adrodd y stori mewn ffordd eglur, gywir a chytbwys
- dewis pwyntiau golygu sy’n creu newid rhwydd o ran rhythm a chyflymder, ac sy’n cyflawni’r effaith golygyddol neu artistig gofynnol
- dewis a defnyddio meddalwedd neu dechnegau golygu i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cyflawni gweithredoedd golygu sylfaenol yn seiliedig ar yr amserlen sy’n bodloni gofynion y briff
- defnyddio effeithiau sain ac effeithiau acwstig pan fo’n briodol i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cadarnhau bod y ffynonellau sain sydd i’w cymysgu mewn acwstig addas gydag ystod ddynamig briodol
- sicrhau bod lleoliad a chyfuniad ffynonellau sain yn cyflawni’r effaith artistig gofynnol wrth greu cymysgedd sain
- cydbwyso’r gerddoriaeth, y llais, y sain wirioneddol a’r effeithiau i fodloni gofynion y gynulleidfa darged
- cadarnhau bod y newidiadau rhwng ffynonellau sain yn dechnegol gywir
- cynnig datrysiadau ymarferol pan fo problemau gyda’r cymysgedd sain
- labelu deunyddiau sain yn unol â’r protocolau priodol
- sicrhau bod y dogfennau’n gywir, yn gyfredol, ar gael ac yn y ffurfiau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- bwriad golygyddol ac effaith artistig gofynnol y deunydd terfynol sydd wedi’i olygu
- sut caiff y deunydd sydd wedi’i olygu ei ddefnyddio a’i gynulleidfa darged
- y prif wahaniaethau rhwng sain analog a digidol
- damcaniaethau sylfaenol golygu sain sy’n seiliedig ar destun ac ailgrynhoad, dysgu peirianyddol a golygu cynhyrchiol AI
- y prif wahaniaethau rhwng golygu sain ddinistriol ac annistrywiol
- sut y gellir trosi sain yn gynrychioliad tonffurf gweledol yn seiliedig ar osgled
- y ffurf gerddorol sylfaenol a’r dull enwi
- sut i asesu deunydd sydd wedi’i recordio a gwneud golygiad bras neu “bapur” gan ddewis y cynnwys allweddol i’w gynnwys yn y darn terfynol
- sut i bennu meini prawf dewis pwynt golygu ar gyfer y golygiad terfynol, cydbwyso ystyriaethau golygyddol ac artistig; strwythur y stori a darpariaeth gwybodaeth, rhythm, cyflymder, llif a sŵn cefndirol
- p’un ai ydy’r deunydd yn mono neu’n stereo a’r goblygiadau ar gyfer y golygiad
- beth yw bwriad y cymysgedd i gyfleu’r graddfeydd amser ar gyfer y golygiad a, lle’n briodol, y gyllideb
- y gofynion o ran y dogfennau a’r protocolau labelu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC15
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
golygu; radio; sain; cynnwys; cymysgu; technegol; ffurf; golygyddol; artistig; effaith; cyd-destun;