Rheoli stiwdio radio a sain
URN: SKSRACC11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio stiwdios hunan-weithredol (self-op) a stiwdios a yrrir gan weithredwyr technegol (tech-op) a bod yn ymwybodol o’u hystod o gyfarpar a thechnegau cynhyrchu.
Mae’n ymwneud nid yn unig â gallu defnyddio cyfarpar unigol ond hefyd gallu cyd-gysylltu eu defnydd o dan bwysau.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n rheoli stiwdio yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio cyfarpar stiwdio i fodloni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
- dewis ffynonellau sain a defnyddio rheolyddion stiwdio, y ddesg gymysgu a’r system chwarae sain ar yr un pryd i fodloni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
- cydweithio gydag eraill yn nhîm cynhyrchu’r stiwdio
- datblygu cynlluniau wrth gefn ymarferol i leihau’r risgiau rhag gallu defnyddio’r stiwdio’n effeithiol
- ymdrin â gwybodaeth neu gyfarwyddiadau a dderbynnir drwy glustffonau a meic cyswllt heb darfu ar lif cynhyrchiad byw
- asesu gwybodaeth i ganfod ffynhonnell debygol problemau trawsyrru technegol neu fethiannau cyfarpar yn ystod y broses darlledu neu gyflwyno
- cywiro methiannau cyfarpar neu broblemau trawsyrru technegol sydd o fewn eich maes arbenigedd
- ceisio cymorth pan fo problemau trawsyrru technegol y tu hwnt i’ch arbenigedd chi
- cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol i leihau’r risg i chi’ch hun ac i eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaethau rhwng stiwdios hunan-weithredol ac a yrrir gan weithredwyr technegol
- rolau, cyfrifoldebau a hierarchaeth timau cynhyrchu stiwdios
- y gwahaniaethau rhwng gweithrediadau stiwdio ar gyfer cynhyrchiad radio neu sain byw neu wedi’i recordio
- y gwahanol ffurfiau technegol a’r technolegau a ddefnyddir i gysylltu stiwdios
- yr egwyddorion sylfaenol o ddefnyddio desg gymysgu, ei gyfarpar, caledwedd a meddalwedd ychwanegol
- yr ystod o ffynonellau sain o bell arfaethedig
- nodweddion a chyfyngiadau gwahanol systemau chwarae sain a sut i’w defnyddio
- y defnydd cywir a diogel o glustffonau a meic cyswllt, safleoedd meicroffonau a’r llinell golwg
- y cynllun, y cyfarpar a’r dechnoleg sydd ar gael, a chyfluniad unrhyw stiwdio benodol sydd i’w defnyddio
- pwysigrwydd disgyblaeth stiwdio dda
- camau amrywiol y broses darlledu radio a sain
- sut i adnabod problemau technegol pan maen nhw’n codi
- sut i ymdrin â phroblemau yn ystod cynhyrchiad byw heb dynnu sylw’r gynulleidfa
- pwy ddylid cysylltu gyda nhw am gymorth gyda phroblemau technegol sydd y tu hwnt i’ch arbenigedd chi
- y rheoliadau a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i ddefnyddio’r holl gyfarpar stiwdio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC13
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
stiwdio; radio; sain; defnyddio; cymysgu; sain; cyfarpar; technegol; iechyd a diogelwch;