Rheoli cynnwys sain gan ddefnyddio gwahanol raglenni, llwyfannau a chyfryngau
URN: SKSRACC10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thrin cynnwys sain yn effeithlon wrth recordio ffeiliau sain a ffurfiau gan ddefnyddio gwahanol raglenni, llwyfannau a chyfryngau cyfrifiadurol. Mae’n ymwneud â deall pa ffurfiau ffeil i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd penodol, a gallu gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch dulliau trosglwyddo, cywasgu, enwi ffeiliau a storio.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n rheoli cynnwys sain gan ddefnyddio gwahanol raglenni, llwyfannau a chyfryngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau a’r prosesau sefydliadol i reoli cynnwys sain
- mewnforio cynnwys sain gan ddefnyddio’r dull penodedig
- trosglwyddo cynnwys sain rhwng gorsafoedd gweithio, llwyfannau a gwahanol raglenni sain
- cyfateb rhyngwynebau rhwng y ffynhonnell a’r cyrchfan o ran normaleiddio lefel sain, mesur maint, afluniad, rhwystriant, ansawdd, polaredd a ffurf, a chadarnhau bod ganddyn nhw unrhyw gydamseredd gofynnol
- cadarnhau bod y cynnwys sain ar y ffurf ddymunol, ar y lefel ofynnol, ac â’r ystod ddynamig sy’n briodol ar gyfer y cyfrwng neu’r dechnoleg recordio
- allforio ffeiliau sain i’r cyfryngau priodol gan ddefnyddio’r dull mwyaf priodol
- canfod datrysiadau eraill ar gyfer mewnforio ac allforio sain, lle’n briodol
- cadw ffeiliau sain ar ffurfiau penodedig mewn lleoliad diogel, yn unol ag arferion y sefydliad
- sicrhau caiff cyfanrwydd y cynnwys sain ei gynnal drwy gydol ei ddefnydd
- cwblhau’r gwaith recordio ymhen y graddfeydd amser penodedig
- cywiro diffygion mewn sain, methiannau yn y systemau, a methiannau mecanyddol sy’n berthnasol i’ch cyfrifoldebau a’ch maes arbenigedd chi
- ceisio cymorth pan fo diffygion a methiannau y tu hwnt i’ch arbenigedd chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion sylfaenol sain ac acwsteg
- y prif wahaniaethau rhwng cynnwys sain analog a digidol
- sut i reoli cynnwys sain yn gywir
- yr amryw brotocolau a dulliau a ddefnyddir i drosglwyddo cynnwys sain
- yr amryw brotocolau a dulliau a ddefnyddir i storio cynnwys sain ar orsafoedd gwaith a systemau cwmwl
- prif nodweddion meicroffonau, ategolion a rhaglenni
- y gwahaniaeth rhwng sain mono a stereo a’i oblygiadau
- nodweddion gweithredu recordwyr symudol
- pa ffurfiau ffeil sydd heb eu cywasgu neu wedi eu cywasgu, y gwahanol ffurfiau cywasgu, a goblygiadau hyn o ran copïo a defnydd darlledu neu gyflwyno
- ystyr dyfnder bit, cyfradd samplo a chyfradd bit ffeil sain, sut maen nhw’n gysylltiedig a’r goblygiadau ar gyfer defnydd y ffeil
- sut byddai nodweddion sain ffeil yn effeithio ar ei faint pan fydd wedi’i storio ar orsaf gwaith sain neu system cwmwl
- pa ffurfiau ffeil a ddefnyddir ar gyfer llwyfannau a rhaglenni penodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSRAC12
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rheoli; radio; sain; cynnwys; cyfryngau; llwyfannau; deunydd sain; ffurf ffeil;