Defnyddio ymchwil cynulleidfa ar gyfer radio a sain

URN: SKSRACC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio ymchwil ar gynulleidfaoedd radio a sain.

Mae’n ymdrin â chydnabod gwahanol frandiau ac arddulliau gorsafoedd radio a sain ac adnabod y gynulleidfa arfaethedig ar gyfer cynnwys radio, sain ac amlgyfrwng – ynghyd â deall dichonoldeb gwahanol lwyfannau dosbarthu.

Mae’n ymwneud â deall ffigyrau cynulleidfaoedd ac ymchwil marchnad, yn ogystal â gwybod ble i ganfod gwybodaeth o’r fath a sut i’w dehongli.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd angen defnyddio ymchwil cynulleidfa fel rhan o’u gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymchwilio data cynulleidfa ar gyfer y llwyfan neu’r ddyfais a ddefnyddir
  2. defnyddio ffynonellau perthnasol a dibynadwy o ddata cynulleidfa yn eich gwaith
  3. dwyn i ystyriaeth y cryfderau a’r cyfyngiadau sydd ynghlwm â ffigyrau cynulleidfaoedd ac ymchwilio data pan fyddwch yn cyflawni gwaith dadansoddi a dehongli
  4. defnyddio data ymchwil cynulleidfa gan ffynonellau dibynadwy er mwyn targedu cynulleidfaoedd ar gyfer brandiau neu orsafoedd radio neu gynnwys sain penodol
  5. disgrifio priodweddau eich cynulleidfa darged
  6. defnyddio gwybodaeth wedi’i hymchwilio ar gynulleidfaoedd i ddatblygu brandiau, arddulliau gorsafoedd, cynnwys rhaglenni a dewisiadau o ran llwyfannau dosbarthu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut, pam a ble mae pobl yn manteisio ar gynnwys sain gan ddefnyddio gwahanol lwyfannau neu ddyfeisiau
  2. egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau technegau ymchwil cynulleidfa
  3. egwyddorion sylfaenol demograffig a dyraniadau marchnad
  4. y gynulleidfa darged presennol neu arfaethedig ar gyfer gorsaf neu raglen benodol rydych chi’n gweithio arnyn nhw
  5. cymhellion, agweddau ac ymddygiadau eich cynulleidfa darged
  6. sut a pham y bwriedir i gynnwys radio a sain penodol a’i ddosbarthiad apelio at wahanol gynulleidfaoedd targed
  7. rôl RAJAR (Radio Joint Audience Research), yr wybodaeth gynulleidfa mae’n ei ddarparu, a diffiniad cysyniadau perthnasol megis y cyfrannau a’r cyrhaeddiad o ran cynulleidfaoedd
  8. sut i adnabod ffynonellau dibynadwy o ddata cynulleidfa
  9. sut i fanteisio ar a defnyddio ffynonellau gwybodaeth mewnol neu allanol am gynulleidfaoedd a’u hymddygiadau
  10. strwythur y diwydiant radio a sain a phriodweddau ei is-sectorau gwahanol
  11. y gwahaniaethau rhwng radio sydd wedi’i ariannu’n gyhoeddus, radio masnachol a radio gymunedol, ynghyd â chynhyrchu radio a sain annibynnol
  12. y gwahanol fesurau perfformiad sy’n berthnasol i’r defnydd o raglenni (apps) a chliciadau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSRAC1

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

ymchwil; radio; sain; cynulleidfa; dadansoddi; dehongli; cyfyngiadau; cynulleidfa darged; llwyfannau;