Gwerthuso syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain

URN: SKSRAC9
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn cynnwys gwerthuso syniadau a'u hasesu yn erbyn gofynion yr orsaf radio, y cynhyrchiad neu'r rhaglen.

Mae'n cynnwys dethol y syniadau hynny sydd â'r potensial i ateb y gofynion hyn ac esbonio'r rhesymau pam mae rhai syniadau wedi'u dethol ac eraill eu gwrthod.

Mae hefyd yn cynnwys pennu triniaethau priodol ar gyfer y syniadau a ddetholwyd.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n gwerthuso syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso syniadau am gynnwys yn erbyn gofynion yr orsaf radio, y cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain, a chanfod ffactorau llwyddiant
  2. asesu lefelau risg greadigol dderbyniol wrth fynd ar drywydd syniadau cynnwys newydd a gwreiddiol
  3. dethol syniadau cynnwys sydd â'r potensial mwyaf i ateb gofynion golygyddol a gofynion cynhyrchu artistig
  4. esbonio'r rhesymau dros ddethol a gwrthod syniadau cynnwys mewn ffordd eglur y mae eraill yn ei deall
  5. darparu adborth i eraill am addasrwydd ac ansawdd eu syniadau ar adegau priodol
  6. cyfiawnhau'r triniaethau a nodwyd ar gyfer syniadau cynnwys dethol o ran gofynion cynhyrchu radio neu sain
  7. rhoi cyfleoedd digonol i eraill gyfrannu at ddatblygu syniad cynnwys

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion yr orsaf radio, y cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain y caiff syniadau cynnwys eu hasesu yn eu herbyn - fel targedu cynulleidfaoedd penodol ac ateb blaenoriaethau masnachol neu ymrwymiadau cymdeithasol
  2. y meini prawf penodol ar gyfer barnu a dethol syniadau cynnwys
  3. y cynulleidfaoedd posibl a'u nodweddion a'u hoffterau hysbys
  4. y cyfreithiau perthnasol, rheoliadau'r diwydiant a'r canllawiau golygyddol sefydliadol
  5. y dulliau o ddarparu adborth i eraill er mwyn cynnal eu cymhelliant
  6. goblygiadau gwireddu syniadau cynnwys ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain o ran eu cost a'u goblygiadau technegol a logistaidd
  7. y cysyniadau o ran fformat a strwythur sy'n berthnasol i drin syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC9

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Triniaethau, Syniadau