Cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRAC8
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â "phitsio" (cyflwyno) syniadau a sgriptiau ar gyfer cynnwys radio neu sain i gynhyrchwyr, golygyddion neu gomisiynwyr mewn ffordd sy'n broffesiynol ac argyhoeddiadol. Mae'n ymwneud â bod yn eglur ynghylch elfennau allweddol eich cyflwyniad a'r hyn sy'n gwneud y syniad neu'r sgript yn neilltuol.
Mae'n ymwneud â chyflenwi'r holl wybodaeth gefndir angenrheidiol am ymarferoldeb cynhyrchu ac amcangyfrif realistig o'r costau.
Mae'n cynnwys ystyried cyfyngiadau cyfreithiol a hawlfraint berthnasol, yn ogystal â chodau ymarfer darlledu cyfredol.
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r holl bobl hynny sy'n cyflwyno syniadau yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cyflwyno achosion/cyflwyniadau am syniadau ar gyfer cynnwys radio neu sain sy'n gymhellol, yn gryno ac yn gydlynol
P2 sicrhau bod yr wybodaeth gefndir i ategu'r cynigion yn gywir ac yn berthnasol, gydag amcangyfrifon realistig o'r costau
P3 sicrhau bod y syniadau'n cydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol a hawlfraint berthnasol, a chodau ymarfer darlledu cyfredol
P4 cyflwyno'ch cynigion mewn fformat priodol
P5 sicrhau bod y dasg o gyflwyno syniadau neu sgriptiau'n adnabod yr elfennau o'r cynhyrchiad radio neu sain mewn ffordd eglur a chywir
P6 sicrhau bod y cynigion o fewn cyfyngiadau amser a'r gyllideb
P7 rhoi digon o amser i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
P8 addasu neu ail-lunio'ch cais ar sail adborth - gan dderbyn beirniadaeth mewn ffordd gadarnhaol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gwybodaeth am y gynulleidfa a'r farchnad bosibl, arddull yr orsaf, genre neu fformat y cynhyrchiad
K2 sut i ddangos bod y syniad neu'r sgript yn wreiddiol ac yn ateb gofynion cynhyrchu radio neu sain
K3 sut i wneud cyflwyniadau cymhellol, cryno a chydlynol i wahanol dderbynwyr
K4 sut i adnabod a pharatoi gwybodaeth gefndir berthnasol
K5 sut i amcangyfrif costau cynhyrchiad radio neu sain
K6 sut caiff syniadau eu gwireddu mewn gwahanol amgylcheddau
K7 cost, goblygiadau technegol a logistaidd gwireddu syniadau
K8 y gofynion cynhyrchu ar gyfer hyd ac arddull y cynnwys, ei gyfnod amser, ei gynulleidfa a'r ystod gostau
K9 yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol allweddol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth
K10 y cyfyngiadau hawlfraint perthnasol
K11 yr agweddau perthnasol ar godau ymarfer darlledu cyfredol
K12 sut i baratoi i dderbyn cwestiynau gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
K13 sut i addasu cynigion ar sail adborth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC8
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Syniadau, Phitsio, Moesegol