Gweithio yn ôl brîff ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRAC7
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio yn ôl brîff penodol ar gyfer cynnwys radio a sain ofynnol - ac mae'n berthnasol i ateb brîff penodol fel aelod o dîm cynhyrchu neu gael eich comisiynu fel cynhyrchydd llawrydd (ar eich liwt eich hun) neu annibynnol gan gleient.
Mae'n ymwneud ag adnabod amcanion, cyllideb a chynulleidfa darged, a gweithio'n effeithiol gyda phwy bynnag sydd wedi gosod y dasg neu gomisiynu'r gwaith. Mae'n ymwneud ag egluro meysydd cyfrifoldeb ac adnabod y cyfryngau a'r terfynau amser priodol.
Mewn rhai amgylchiadau, gallai gynnwys proses gomisiynu gystadleuol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n gweithio yn ôl brîff yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu mewn modd positif gyda'r person sydd wedi gosod y brîff ar gyfer cynnwys radio a/neu sain
- adnabod yr amcanion, y gyllideb, y gynulleidfa darged fwriadedig, yr amserlenni a'r cyfrwng ar gyfer y gwaith radio a/neu sain o ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
- gyda phobl berthnasol, cytuno pa adnoddau mae disgwyl i chi weithio gyda nhw
- sefydlu a chytuno meysydd cyfrifoldeb gyda phobl berthnasol, gan lunio'r brîff pan fydd gofyn
- sicrhau bod y person sydd wedi gosod y brîff yn cael gwybodaeth am gynnydd ar adegau cytunedig
- cynnig opsiynau amgen ymarferol a chytuno'r ffordd ymlaen gyda'r person sydd wedi gosod y brîff os bydd problemau neu rwystrau'n codi
- datblygu cynnwys radio a/neu sain sy'n ateb amcanion y gwaith
- darparu'r cynnwys radio a/neu sain ar amser ac o fewn y gyllideb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyd-destun ar gyfer y comisiwn; arddull, diwylliant a pholisi golygyddol gorsaf benodol neu gomisiynydd arall a genre a ffurf y cynnwys a gomisiynwyd ar gyfer y radio a/neu sain
- ble i gael gwybodaeth ddibynadwy am y brîff, yr amcanion, y gyllideb, y gynulleidfa darged, yr amserlenni a'r cyfrwng
- sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda golygyddion neu gomisiynwyr a chleientiaid
- technegau ar gyfer gwrando a gofyn cwestiynau perthnasol er mwyn sefydlu elfennau sefydlog y brîff a rhai y gellir eu cyd-drafod
- gwahanol ffyrdd o ymateb i frîff ar gyfer cynnwys radio a/neu sain
- sut i ystyried pethau annisgwyl ac ymateb i amgylchiadau cyfnewidiol
- sut i lunio brîff a'i fformatau posibl
- y gwahanol brosesau i'w dilyn pan fydd yn gomisiwn cystadleuol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC7
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Cynnwys, Briffio, Comisiwn, Gynulleidfa, Genre, Fformat