Cynnal ymchwil ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRAC6
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal ymchwil ar gyfer ystod o gynnwys radio a sain ar draws pob genre.
Mae'n golygu meddu ar ddealltwriaeth eglur o ddiben yr ymchwil a sut caiff ei defnyddio.
Mae'n ymwneud â chyrchu neu gysylltu ag ystod eang o ffynonellau a gallu craffu data, neu holi unigolion er mwyn casglu gwybodaeth sy'n berthnasol neu'n arwyddocaol i'r pwnc dan sylw.
Mae'n mynnu dod i farn fwriadus am ddibynadwyedd ffynonellau a chywirdeb gwybodaeth.
Mae'n ymwneud â deall materion hawlfraint yn ogystal â chyfyngiadau cyfreithiol a moesegol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynnal ymchwil i ddatblygu cynnwys yn y diwydiannau radio a sain
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod meysydd i gynnal ymchwil iddynt sy'n berthnasol i'r brîff cynnwys radio neu sain
- adnabod ffynonellau gwybodaeth a chyngor dibynadwy posibl pan fydd angen gwybodaeth arbenigol
- cytuno ar y defnydd o ffynonellau arbenigol gyda phobl berthnasol a gwneud trefniadau i gontractau gael eu cyhoeddi lle y bo'n briodol
- cysylltu â ffynonellau perthnasol mewn ffordd sydd fwyaf tebygol o gael hyd i'r wybodaeth ofynnol
- cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr a nodiadau cyfweliadau ar gyfer yr ymchwil a gynhelir
- cadw cronfeydd data cysylltiadau'n gyfoes
- storio pob math o wybodaeth yn ymwneud â ffynonellau ac ymchwil mewn ffordd ddiogel gyda phrotocolau sefydliadol cytûn
- dyfeisio cwestiynau a defnyddio technegau holi priodol i sicrhau gwybodaeth ar gyfer brîff yr ymchwil
- casglu gwybodaeth o ystod o wahanol ffynonellau i alluogi barnu eu gwerth a'u dibynadwyedd
- gwirio bod gwybodaeth yn ddilys, yn gywir ac yn addas at ei diben
- asesu'r holl wybodaeth o ran ei pherthnasedd i'r cynnwys radio neu sain cyn dethol y deunydd a fydd yn gwireddu brîff yr ymchwil orau
- cael cyngor priodol am unrhyw feysydd a sy'n ddadleuol yn gyfreithiol
- casglu gwybodaeth o fewn amserlenni, terfynau cyllidebau a gofynion cytundebol cytunedig
- defnyddio'ch ymchwil i gynhyrchu nodiadau briffio cydlynol a chryno mewn ffurf sy'n briodol i'r defnyddiwr terfynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben yr ymchwil a natur y cynnwys radio neu sain mae'n perthyn iddo
- yr amserlenni, y terfynau amser a chyfyngiadau adnoddau ar gyfer yr ymchwil i'w chynnal ar gyfer creu cynnwys radio a sain
- sut i rannu cynnig yn dasgau ymchwil ymarferol
- ffynonellau gwybodaeth bosibl gan gynnwys pobl, cyhoeddiadau a chronfeydd data
- sut i gysylltu â phobl i gael hyd i wybodaeth
- pwysigrwydd cadw nodiadau ymchwil eglur, cynhwysfawr, cywir a chyfredol
- y gofynion cyfreithiol a'r protocolau sefydliadol perthnasol ar gyfer storio gwybodaeth mewn perthynas ag ymchwil a ffynonellau
- yr ystyriaethau masnachol, cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol wrth gysylltu â ffynonellau a pha drefniadau cytundebol sy'n berthnasol i ffynonellau arbenigol
- sut i werthuso gwybodaeth o ran ei pherthnasedd, ei dibynadwyedd a'i chywirdeb a sut i wirio ac adnabod anghysonderau ac anghysondebau
- sut i ymgymryd ag ymchwil effeithiol ar y rhyngrwyd, gan ddefnyddio peiriannau chwilio arbenigol lle bo angen
- y risgiau cyfreithiol, y camgymeriadau ffeithiol a'r achosion posibl o dramgwyddo codau ymddygiad sy'n gysylltiedig â defnyddio deunydd o ffynonellau'r rhyngrwyd
- gwerth, cyfyngiadau a risgiau defnyddio ffynonellau cyfryngau cymdeithasol
- yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol perthnasol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth ar gyfer cynnwys radio neu sain
- unrhyw gyfyngiadau ac amodau sy'n gysylltiedig â defnyddio gwybodaeth a goblygiadau defnyddio deunyddiau hawlfraint ar gyfer cynnwys radio a sain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC6
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Cynnwys, Ymchwil, Cyfreithiol, Moesegol, Masnachol, Hawliau