Cychwyn a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRAC5
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chychwyn a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain a chymhwyso technegau meddwl creadigol ac adrodd storïau, yn ogystal â dealltwriaeth o'r cyd-destun a'r farchnad ar gyfer eich syniadau. Mae'n ymwneud â deall gofynion gorsafoedd, cynyrchiadau a rhaglenni radio a gwahanol genres, ac adnabod ffactorau sydd wedi cyfrannu at lwyddiannau neu fethiannau yn y gorffennol.
Mae'n cynnwys defnyddio dulliau ymchwil priodol, cyrchu ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, a chadarnhau bod modd gwireddu cynigion o fewn ffiniau cyllidebau.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cychwyn a datblygu syniadau yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i sefydlu gofynion yr orsaf, cynhyrchiad neu raglen radio, a natur y gynulleidfa darged
- cychwyn a datblygu syniadau creadigol ar gyfer cynnwys radio a sain sydd â'r potensial i ateb gofynion cynhyrchu neu raglen, ac apelio at y gynulleidfa darged ar draws pob llwyfan perthnasol
- defnyddio dulliau ymchwil i ateb gofynion cynhyrchu sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol a moesegol perthnasol
- trafod a rhoi cynnig ar syniadau cychwynnol gyda phobl berthnasol eraill i ddatblygu cynigion ystyriol ar gyfer cynnwys radio a sain
- datblygu syniadau cynnwys radio a sain yn ddigon manwl i ganfod y gellir eu gwireddu gyda'r adnoddau sydd ar gael a/neu o fewn cyllideb ac amserlen benodedig
- adnabod ffactorau sydd wedi pennu llwyddiant neu feddiant cynyrchiadau radio a sain yn y gorffennol a chymhwyso'r dysgu hwn, gan adeiladu ar arfer da wrth ddatblygu syniadau
- gwirio'r ffynonellau sydd ar gael ac sy'n hygyrch i wirio pa mor wreiddiol yw'r syniadau
- adnabod cyfleoedd i ddelweddu a ffyrdd eraill o ddefnyddio syniad ar draws llwyfannau amrywiol i greu cynnwys aml-gyfrwng rhyngweithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr orsaf, y cynhyrchiad neu'r rhaglen y mae unrhyw syniad cynnwys radio a sain wedi'i anelu ato/ati, ei gynulleidfa/chynulleidfa darged, a disgwyliadau pobl sy'n comisiynu sy'n gwneud penderfyniadau
- nodweddion a hoffterau'r gynulleidfa fwriadedig, a pha mor debygol yw'ch syniad o apelio atynt
- sut i gymhwyso technegau meddwl creadigol ac adrodd storïau i gychwyn syniadau cynnwys
- sut i dynnu ar ffynonellau syniadau posibl - gan gynnwys profiad personol, ymchwil arbenigol a phob math o gyfryngau
- sut i weithio'n gydweithredol ag eraill a pham mae'n bwysig gwneud hynny
- sut i ddatblygu syniadau cychwynnol a'u troi'n gynigion y gellir gweithio gyda nhw, y cwestiynau i'w gofyn, ac a oes angen unrhyw wybodaeth bellach
- unrhyw faterion posibl o ran y gyfraith, rheoleiddio neu bolisi golygyddol a sut dylid mynd i'r afael â nhw
- sut i adnabod yr hyn sydd wedi gwneud syniadau cynnwys radio a sain flaenorol yn llwyddiannus
- sut i adnabod ffynonellau gwybodaeth arbenigol berthnasol
- y technegau ar gyfer delweddu radio a sain, a sut gellir datblygu syniadau cynnwys i greu cynnwys aml-gyfrwng ar draws ystod o lwyfannau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC5
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Aml-gyfrwng, Radio, Sain, Syniadau, Cynnwys, Llwyfannau