Cyfrannu syniadau at y broses greadigol ym maes radio a sain
URN: SKSRAC4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyfrannu syniadau at y broses greadigol ym maes radio a sain.
Bydd angen i chi ddefnyddio technegau adrodd stori, meddwl yn greadigol, cydweithredu ag eraill a goresgyn unrhyw rwystrau i greadigrwydd.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cyfrannu syniadau at y broses greadigol yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 adnabod y posibiliadau creadigol sy'n briodol i'r genre a'r llwyfan dosbarthu
P2 cymhwyso cysyniadau o ran fformat a strwythur wrth ddatblygu cynnwys creadigol sy'n briodol i'r cynnwys hwnnw
P3 cynhyrchu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain gan ddefnyddio technegau meddwl creadigol dilys - gan gyfranogi'n barod mewn ymarferion i sbarduno syniadau
P4 cyflwyno'ch syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain i eraill mewn ffordd sy'n dangos eu manteision
P5 ymateb i syniadau eraill mewn ffyrdd adeiladol
P6 cydweithredu ag eraill mewn ffyrdd sy'n caniatáu rhannu gwybodaeth ac arfer da
P7 adnabod rhwystrau i greadigrwydd a ffyrdd ymarferol o'u goresgyn
P8 awgrymu ffyrdd newydd o weithio i sbarduno syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain mewn ffyrdd adeiladol i bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 rôl hanfodol creadigrwydd a meddwl creadigol ym mhob genre a llwyfan dosbarthu ar gyfer radio a sain
K2 egwyddorion sylfaenol adrodd storïau a sut i'w cymhwyso wrth greu cynnwys radio a sain, a chynnwys aml-gyfrwng cysylltiedig ar draws pob llwyfan
K3 cysyniadau fformat a strwythur mewn perthynas â phob math o gynnwys sain
K4 cyfleoedd creadigol a chyfyngiadau llwyfannau a dyfeisiau ar gyfer cyflwyno cynnwys radio a sain a chynnwys aml-gyfrwng cysylltiedig
K5 cyfleoedd creadigol a chyfyngiadau technegau delweddu radio a sain
K6 y defnydd o dechnegau i ysgogi cynhyrchu syniadau a meddwl creadigol ar gyfer creu cynnwys radio a sain
K7 manteision cydweithredu a rhannu gwybodaeth
K8 sut i gymryd risgiau derbyniol i greu ac arloesi a dysgu o arfer gorau a chamgymeriadau blaenorol
K9 y polisïau cyfreithiol, moesegol, golygyddol a sefydliadol perthnasol a allai fod yn berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRAC04
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Cynhyrchu