Cydlynu gwaith papur cynhyrchu ar gyfer radio a sain
URN: SKSRAC34
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydlynu gwaith papur cynhyrchu ar gyfer radio neu sain. Mae'n ymwneud â chynhyrchu gwaith papur perthnasol i ategu a chwblhau cynhyrchiad radio a sain. Gallai hyn gynnwys amserlenni, sgriptiau, ceisiadau technegol, rhestrau castiau a chriwiau, taflenni galw a chriwiau, ffurflenni caniatâd a rhyddhau, contractau, cliriadau hawlfraint a gwaith papur cydymffurfiaeth arall.
Mae'n ymwneud â chael gwybodaeth ar bob cam o'r gwaith cynhyrchu o gynllunio i gyflwyno a chwblhau prosiect; cadw cofnodion a chreu'r gwaith papur angenrheidiol; a'i gyhoeddi'n brydlon yn y fformat gofynnol i bob un y mae ei angen arno/arni.
Mae'n cynnwys sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn gyfoes a rhoi gwybod i bobl pan fydd newidiadau. Mae'n ymwneud â chyfathrebu'r amserlen gynhyrchu i gydweithwyr perthnasol, a rhoi unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol.
Mae'n mynnu sylw i fanylion, a sgiliau trefnu a chyfathrebu da.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cydlynu gwaith papur ar gyfer radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cael hyd i'r wybodaeth angenrheidiol i'w chynnwys mewn gwaith papur ategol o ffynonellau perthnasol
P2 cynnal cofnodion cyfoes o'r holl wybodaeth cynhyrchu radio a sain sy'n ofynnol
P3 cadarnhau bod yr wybodaeth a gasglwyd gennych yn gywir ac yn gyfoes
P4 gwirio bod unrhyw gyfrifiadau yn yr wybodaeth yn gywir
P5 cynhyrchu gwaith papur eglur a chywir sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol yn y fformat gofynnol
P6 dosbarthu'r gwaith papur i bob un o'r bobl hynny y mae ei angen arnynt yn ddi-oed, gan eu hysbysu o unrhyw newidiadau o fersiynau cynt
P7 cyfathrebu gofynion y cynllun cynhyrchu, yr amserlen a'r sgriptiau radio neu sain i aelodau'r tîm cynhyrchu mewn pryd iddynt gymryd camau priodol
P8 cymharu cynnydd yn erbyn cynlluniau ac amserlenni'n rheolaidd
P9 cydlynu gwybodaeth berthnasol ar gyfer taflenni galw os bydd angen
P10 cynnal cyfrinachedd gwybodaeth sensitif yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y gofynion cynhyrchu radio a sain, gan gynnwys amserlenni, contractau, trwyddedu, ffurflenni caniatâd a rhyddhau
K2 ffynonellau gwybodaeth berthnasol ar gynnydd a chyflwyno'r cynhyrchiad
K3 ar bwy mae angen yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y gwaith papur ategol
K4 y gwahanol fathau o waith papur ategol sy'n ofynnol ar wahanol gamau cynhyrchiad - gan gynnwys amserlenni cynhyrchu a golygu i gontractau, cliriadau hawlfraint a ffurflenni recordio a chydymffurfiaeth.
K5 fformatau safonol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth, a phryd dylid eu defnyddio
K6 y terfynau amser a'r gweithdrefnau ar gyfer dosbarthu neu gyflwyno gwaith papur
K7 ar bwy mae angen yr wybodaeth am y cynllun cynhyrchu a'r amserlen radio a sain, manylion ôl-gynhyrchu a chyflwyno a phryd mae ei hangen
K8 yr wybodaeth ofynnol ar daflen alw
K9 sut mae'r Ddeddf Diogelu Data'n rheoleiddio’r gwaith o gasglu, defnyddio a recordio data personol
K10 mathau o wybodaeth gyfrinachol gan gynnwys contractau a manylion cyswllt ar gyfer actorion, cerddorion, cyflwynwyr neu gyfranwyr
K11 eich cyfrifoldebau o ran cadw cofnodion cynhyrchu
K12 pwysigrwydd talu sylw i fanylion, a sgiliau trefnu a chyfathrebu da
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2017
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC34
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Cynhyrchu, Diogelu data, Gwath papur, Cydlynu