Creu cynnwys gweledol i'w ddefnyddio ym maes radio a sain
URN: SKSRAC33
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r broses o ddelweddu radio - sef creu deunydd gweledol i ategu cynnwys radio a sain a helpu i ddenu cynulleidfaoedd sy'n defnyddio sain ar ystod o lwyfannau a dyfeisiau.
Gall hyn gynnwys derbyn, cipio a golygu asedau cyfryngol gweledol - yn ddelweddau llonydd a rhai byw.
Mae'n gofyn dealltwriaeth o'r cyd-destun golygyddol a chreadigol a'r ystyriaethau technegol dan sylw.
Mae hefyd yn gofyn dealltwriaeth o botensial y dechnoleg, a hynny’n botensial sy'n bodoli ac sy'n ymddangos, y cyfarpar a'r meddalwedd sydd ar gael i gyflwyno hyn.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n creu cynnwys gweledol i'w ddefnyddio gyda chynnwys radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dethol cyfarpar priodol i gipio deunydd gweledol gwreiddiol i'w ddefnyddio mewn radio a sain
P2 gosod a gwirio cyfarpar, gosodiadau camera a chyflawni cydbwysedd gwyn lle bo angen
P3 cipio delweddau llonydd neu fyw yn y cyfrwng a'r fformat priodol i greu cynnwys gweledol i'w ddefnyddio ym maes radio a sain
P4 monitro ansawdd technegol yn erbyn gofynion ansawdd gofynnol yn ystod y broses gipio
P5 sicrhau bod deunydd digonol a pherthnasol at y diben bwriadedig yn cael ei gipio neu ei recordio
P6 sicrhau bod cynnwys gweledol o ffynonellau sy'n bodoli eisoes mewn fformatau priodol
P7 torri, golygu a rhoi capsiynau ar gynnwys fideo digidol gan ddefnyddio teclynnau golygu fideo o safon y diwydiant
P8 cropio, golygu a newid maint delweddau statig gan ddefnyddio teclynnau trin a thrafod delweddau o safon y diwydiant
P9 arbed deunydd gweledol yn y fformat priodol at ei ddefnydd bwriadedig mewn cynyrchiadau radio a sain
P10 cywasgu asedau digidol i ateb gofynion
P11 cynhyrchu deunydd gweledol sy'n ystyried confensiynau a chyfyngiadau'r llwyfan neu'r ddyfais y cafodd ei fwriadu ar ei gyfer/chyfer
P12 cyflwyno deunydd gweledol yn unol â therfyn amser, ac o fewn unrhyw gyfyngiadau cyllidebol
P13 labelu'r holl ddeunyddiau yn unol â phrotocolau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y brîff sylfaenol ar gyfer y cynnwys gweledol; bwriad golygyddol a chreadigol, cynulleidfa darged y cynnwys radio neu sain a'r llwyfan
K2 sut i gael hyd i'r cynnwys gweledol gofynnol; p'un a fydd o ffynonellau sy'n bodoli eisoes neu wedi'i gipio'n wreiddiol mewn fformatau priodol
K3 egwyddorion sylfaenol ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau neu fideos, o ran cyfansoddiad a fframio’r delweddau ac amrywiaeth y delweddau sydd eu hangen at ddibenion golygu fideo
K4 technegau goleuo sylfaenol lle y bo'n briodol
K5 nodweddion gweithredu amrywiol ddyfeisiau digidol sy'n gallu cipio delweddau llonydd neu ddelweddau byw; a chyfyngiadau'r cyfarpar sydd ar gael i chi
K6 sut i sicrhau bod gennych wybodaeth gyfoes o ran y dechnoleg ddiweddaraf a datblygiadau'n ymwneud â delweddu radio a sain
K7 sut i ddefnyddio teclynnau trin a thrafod delweddau digidol o safon y diwydiant
K8 sut i ddefnyddio teclynnau golygu fideo digidol o safon y diwydiant
K9 ansawdd a goblygiadau eraill gwahanol godecs a chyfraddau cywasgu
K10 y protocolau priodol ar gyfer arbed a labelu asedau digidol
K11 sut i wirio a phrofi cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr
K12 pryd a sut i gyflawni gwiriad cydbwysedd gwyn
K13 yr amserlenni ar gyfer cael hyd i ddeunydd gweledol at ddefnydd radio a sain, a'i gipio a'i olygu, a'r gyllideb lle bo angen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRCA33
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Delweddu, Digidol, Golygu