Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y DU pan yn gweithio ym maes creu cynnwys radio a sain
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydymffurfio â'r agweddau ar ofynion cyfreithiol y DU sy'n berthnasol i greu cynnwys radio a sain - a sut maen nhw'n effeithio ar yr hyn y gellir ei wneud a'r hyn na ellir ei wneud yn rhan o'r broses honno.
Mae'n ymwneud â'r cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy'n ymwneud â diogelu a lledaenu gwybodaeth am drosedd, yr heddlu ac achosion llys yn ogystal â'r gyfraith sy'n diogelu diogeledd cenedlaethol, trefn gyhoeddus, hawliau eiddo deallusol, hawliau mentrau masnachol, hawliau unigolion, hawliau lleiafrifoedd a phobl sy'n agored i niwed megis plant.
Mae angen i ddarlledwyr radio a sain wybod am gyfraith berthnasol y DU, fel y gallant adnabod achosion posibl o dorri hynny yn eu gwaith eu hunain, a chyfeirio at arbenigwyr cyfreithiol a rheolwyr golygyddol pan fydd angen.
Ymdrinnir â gofynion Cod Darlledu Ofcom ar wahân yn Safon RAC32: Cydymffurfio â chodau ymddygiad a safonau wrth weithio ym maes radio a sain.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n gysylltiedig â'r broses o greu cynnwys radio a sain ac nid yn unig y rhai hynny mewn rolau newyddiadurol yn benodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gywir er mwyn asesu cyfreithlondeb eich gweithgareddau a'ch allbynnau a phryd y dylech geisio cyngor arbenigol
- mynychu achosion llys a chael manylion sylfaenol gan swyddogion y llys a dogfennau llys pan fydd yn briodol
- cydymffurfio â'r cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sydd ynghlwm â phob achos a/neu stori benodol wrth ohebu o'r llys ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain
- sicrhau bod eich ffynonellau a'r wybodaeth gan eich ffynonellau'n berthnasol ac yn ddibynadwy
- sicrhau nad yw eich gohebu'n effeithio ar unrhyw ymchwiliadau parhaus neu achosion troseddol sydd ar y gweill
- defnyddio sianeli priodol i wneud heriau cyfreithiol pan wneir ymdrechion i gyfyngu eich mynediad
- ceisio cyngor gan bobl briodol cyn mynd ati i ymchwilio ar y rhyngrwyd a allai olygu eich bod yn gweithredu'n groes i ddeddfwriaeth
- sicrhau bod gennych y trwyddedau neu'r caniatadau angenrheidiol i ddefnyddio deunydd hawlfraint i greu cynnwys radio neu sain
- ceisio cyngor gan bobl gymwys pan fyddwch yn ansicr o gyfreithlondeb eich gweithgareddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth bresennol sy'n berthnasol i'r diwydiant radio a sain gan gynnwys: Difenwi, Dirmyg, Hawlfraint ac Eiddo Deallusol, Preifatrwydd a rhyddid mynegiant, Diogelu Data, Cydraddoldeb a gwahaniaethu, Anweddustra, Deddf Cyfrinachau Swyddogol, Tremasu, Ffotograffau o blant, rhyddhau Eiddo, Hawliau a chaniatadau, Contractau, Atebolrwydd Cyhoeddus
- egwyddorion Rheolaeth y Gyfraith yn y DU
- strwythur bras y system gyfreithiol yn y DU a gofynion cyfreithiol sy'n benodol i'r gwledydd, rolau cyfreithiol a therminoleg
- y cysyniad o gyfiawnder agored a hawliau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau sy'n gysylltiedig â gohebu o'r llysoedd, cyhoeddi, mynediad i wybodaeth a rhyddid mynegiant
- eich hawliau cyfreithiol i fynychu achosion llys, ac i gael manylion sylfaenol a gwybodaeth arall gan swyddogion y llys a dogfennau llys
- y cyfyngiadau gohebu i ddiogelu'r broses gyfreithiol wrth ohebu am achosion troseddol sydd ar y gweill ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain
- y cyfyngiadau gohebu i ddiogelu hunaniaeth unigolion iau a dioddefwyr trosedd
- egwyddorion cyffredinol difenwi
- y gallai eich ffynonellau a'ch nodiadau, ar gyfer ymchwiliadau troseddol, droi'n destun craffu cyfreithiol neu graffu gan yr heddlu
- cwmpas a gofynion yr amddiffyniadau y gellir eu defnyddio mewn achosion difenwi, gan gynnwys: cyfiawnhad, sylw gonest, braint absoliwt ac amodol, y camau lliniaru sydd ar gael i ddarlledwyr
- peryglon enllib mewn radio byw, deunydd archif neu ddeunydd ar-lein
- y defnydd o waharddebau llys i gyfyngu darlledwyr oni bai y gellir ennill dadl budd y cyhoedd
- hawliau mynediad i wybodaeth o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a'r cyfyngiadau cyfreithiol ar fynediad o'r fath
- cwmpas hawliau eiddo deallusol a'r hyn sydd wedi'i ddiogelu gan hawlfraint, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chynnwys radio a sain a gynhyrchwyd gan y defnyddiwr
- y camau unioni perthnasol o blaid achosion o dorri cyfrinachedd ac amddiffyniadau sy'n berthnasol iddynt
- pan fo angen, sut mae deddfwriaeth yn wahanol mewn gwledydd a thiriogaethau eraill y gallech fod yn gweithio neu'n gweithredu ynddynt
- sut i gyfeirio materion am gyngor arbenigol o fewn eich sefydliad - neu sut i gyrchu cyngor o'r fath yn annibynnol