Adnabod, paratoi a chyfweld ar gyfer cynyrchiadau radio a sain

URN: SKSRAC30
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â deall natur a diben amrywiol fathau o gyfweliadau radio neu sain, a'r paratoadau gofynnol cyn i bob cyfweliad ddechrau. 

Mae'n ymwneud ag adnabod cyfweleion priodol, gwirio'u manylion a ffeithiau cefndir.

Mae'n cynnwys cynllunio cwestiynau a briffio cyfweleion yn gywir. 

Mae'r Safon hon hefyd yn ymwneud â chynnal amrywiol fathau o gyfweliadau o dan wahanol amodau, gan ddefnyddio arddulliau cyfweld addas, ac ymateb yn briodol i ymatebion. 

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n adnabod, yn paratoi ac yn cyfweld ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod diben a ffocws pob eitem, rhaglen neu gynhyrchiad radio neu sain
  2. adnabod a lleoli pobl briodol i gyfweld â nhw, gan ystyried yr angen am gydbwysedd a chymysgedd o safbwyntiau lle bo angen
  3. paratoi eich hun drwy wirio ffeithiau cefndir a manylion personol i gadarnhau perthnasedd ac awdurdod cyfweleion
  4. paratoi cyfweleion gyda gwybodaeth eglur a chywir ar y trywyddau holi arfaethedig a'r cyfraniad a ddisgwylir ganddynt
  5. yn ystod y cyfweliad, mabwysiadu arddull cyfweld sy'n swnio'n ddigymell sy'n briodol i'ch amcanion, ac sy'n annog yr ymatebion gofynnol gan bob cyfwelai
  6. gwrando ar ymatebion cyfweleion a dilyn i fyny ar eu hymatebion gyda chwestiynau perthnasol
  7. cynnig eglurhad i gynulleidfaoedd ar adegau priodol am wybodaeth a arddelir gan gyfweleion, ac am unrhyw dermau arbenigol neu ymadroddion a ddefnyddir
  8. terfynu cyfweliadau pan fydd gofyn gydag effaith olygyddol briodol
  9. hysbysu cynulleidfaoedd pwy yw cyfweleion ar adegau perthnasol yn ystod yr eitem, rhaglen, cynhyrchiad radio neu sain
  10. sicrhau bod safbwyntiau cyfweleion yn cael eu hadlewyrchu mewn ffordd deg a chywir pan gaiff cyfweliadau eu golygu i'w darlledu
  11. sicrhau bod unrhyw ffurflenni rhyddhau a chaniatâd yn cael eu llofnodi gan bobl briodol
  12. sicrhau bod aelodau perthnasol o'r tîm cynhyrchu a thechnegol yn cael eu briffio gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt bob amser
  13. gweithio o fewn cyfyngiadau adnoddau a chyllidebau ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben y cyfweliad radio neu sain
  2. y gwahanol fathau o gyfweliadau a'u gofynion amrywiol: megis rhai byw neu wedi'u recordio, mewn stiwdio neu ar leoliad
  3. y brîff a gytunir yn glir ar gyfer pob cyfweliad, a'r cynulleidfaoedd targed
  4. sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau a dod o hyd i gyfweleion
  5. y terfyn amser ar gyfer cyfweliadau wedi'u recordio, a'r slotiau ar yr awyr ar gyfer cyfweliadau sydd wedi'u cwblhau a'u golygu
  6. enwau a lleoliadau cyfweleion unigol
  7. y cyllidebau a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer pob cyfweliad
  8. pryd i ddefnyddio ffurflenni rhyddhau a chaniatâd, pwy y mae eu hangen arnynt, a phryd a pham y dylid gwarchod manylion hunaniaeth cyfwelai
  9. y gwahaniaethau rhwng cynnal cyfweliadau sydd wedi'u cynllunio a rhai digymell
  10. yr arddull cyfweld cywir i'w fabwysiadu ar gyfer diben pob cyfweliad, a gwahanol ofynion gorsafoedd, rhaglenni a chynyrchiadau radio neu sain
  11. sut i baratoi cwestiynau sydd wedi'u bwriadu i roi atebion cydlynol, dadlennol, treiddgar neu ddifyr, a defnyddiau cwestiynau agored a chaeedig fel ei gilydd 
  12. sut i baratoi i gael eich cyfweld, gan gynnwys sut i ragweld cwestiynau a pharatoi atebion ymlaen llaw
  13. sut i wirio bod cyfweleion yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt
  14. pwysigrwydd cynnal cyswllt llygad a defnyddio iaith y corff yn gywir wrth gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb
  15. pan fydd angen, y codau gwisg perthnasol ar gyfer gwahanol achlysuron a lleoliadau
  16. sut i derfynu cyfweliadau'n naturiol ac yn daclus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC30

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Cyfweliadau, Baratoi, Arddull, Cwestiynau