Defnyddio ymchwil y gynulleidfa ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC3
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio ymchwil am gynulleidfaoedd radio a sain a'u denu i'r gwaith rydych chi'n gysylltiedig ag ef.

Mae'n ymwneud â chydnabod gwahanol frandiau radio a sain ac arddulliau gorsafoedd ac adnabod y gynulleidfa fwriadedig ar gyfer cynnwys radio, sain a chynnwys aml-gyfrwng cysylltiedig arbennig - a deall potensial gwahanol lwyfannau dosbarthu.

Mae'n ymwneud â deall ffigurau cynulleidfaoedd ac ymchwil y farchnad, a gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth o'r fath a sut i'w dehongli.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un y mae angen iddynt ddefnyddio ymchwil y gynulleidfa yn rhan o'u gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio ffynonellau perthnasol a dibynadwy am ddata'r gynulleidfa yn eich gwaith
  2. ystyried cryfderau a chyfyngiadau ffigurau'r gynulleidfa a data ymchwil wrth ymgymryd â gwaith dadansoddi a dehongli sylfaenol
  3. defnyddio data ymchwil am y gynulleidfa o ffynonellau dibynadwy i adnabod cynulleidfaoedd targed ar gyfer brandiau radio, gorsafoedd neu gynnwys sain benodol
  4. disgrifio nodweddion eich cynulleidfa darged mewn fformatau priodol
  5. defnyddio gwybodaeth a ymchwiliwyd am gynulleidfaoedd i ddatblygu brandiau, arddull gorsafoedd, cynnwys rhaglenni a dewisiadau o ran llwyfannau dosbarthu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut, pam a ble mae pobl yn cyrchu cynnwys sain gan ddefnyddio gwahanol lwyfannau neu ddyfeisiau
  2. egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau technegau cynnal ymchwil i'r gynulleidfa
  3. egwyddorion sylfaenol demograffeg a segmentu'r farchnad
  4. y gynulleidfa darged bresennol neu'r gynulleidfa darged bosibl ar gyfer gorsaf neu raglen arbennig rydych yn gweithio arni
  5. cymhelliant, agwedd neu ymddygiad eich cynulleidfa darged
  6. sut a pham y bwriedir i gynnwys radio a sain arbennig a'r ffordd caiff ei ddosbarthu apelio at wahanol gynulleidfaoedd targed
  7. rôl RAJAR (teclyn mesur cynulleidfaoedd y Radio Joint Audience Research), y wybodaeth mae'n ei darparu am gynulleidfaoedd, a diffiniad cysyniadau perthnasol megis cyfran a chyrraedd y gynulleidfa
  8. sut i adnabod ffynonellau data dibynadwy am y gynulleidfa
  9. sut i gyrchu a defnyddio ffynonellau gwybodaeth allanol am gynulleidfaoedd a'u hymddygiad
  10. strwythur y diwydiant radio a sain a nodweddion ei is-sectorau neilltuol
  11. y gwahaniaethau rhwng cynhyrchu radio a sain ar gyfer radio a gyllidir yn gyhoeddus, radio masnachol a radio a sain annibynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC3

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Gynulleidfa, Ymchwil, Cynnwys